Diwrnod y Cadoediad: Cofio'r rhai fu farw yn y Rhyfel Mawr

pabi

Bu pobl ar draws Cymru yn cofio'r rhai fu farw yn y Rhyfel Mawr ddydd Gwener.

Mae Dydd y Cadoediad yn nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ar unfed awr ar ddeg, yr unfed dydd ar ddeg, o'r unfed mis ar ddeg o'r flwyddyn.

Cafwyd dau funud o dawelwch ei nodi gan bobl ar draws y wlad, gan gynnwys y senotaff yn Abertawe, Sgwâr y Frenhines yn Wrecsam ac ar y maes coffa yng Nghaerdydd.

Cafodd wynebau 11,000 o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf eu harddangos yng Nghaernarfon, Gwynedd.

Roedd y wynebau ymddangos ar sgrin fawr ar y Maes yn y dref fel rhan o brosiect i ddangos y colledion a ddioddefwyd gan y gatrawd yn y gwrthdaro rhwng 1914-18.

Image caption Milwyr a chyn-filwyr yn cofio yn Aberystwyth
Image caption Bu chwaraewyr pêl-droed Cymru yn rhoi teyrnged wrth hyfforddi

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ymweld â'r cerfluniau pabi coch yng Nghastell Caernarfon.

Dywedodd Mr Jones: "Bu'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ymladd ar draws y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys Brwydr y Somme, ac mae cyswllt arbennig gyda'r castell.

"Mae miloedd o bobl sydd eisoes wedi ymweld â'r cerflun wedi cael y cyfle i fyfyrio a dysgu am sut y mae digwyddiadau tyngedfennol y Rhyfel Byd Cyntaf wedi effeithio ar ein cymunedau yng Nghymru ac yn dylanwadu ar y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw."

Straeon perthnasol