Wyth mlynedd o garchar i yrrwr meddw am ladd

Lee Rees Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Mae Lee Rees wedi ei wahardd rhag gyrru am 14 mlynedd

Mae dyn oedd bron ddwywaith dros y terfyn yfed a gyrru wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am daro a lladd dyn arall mewn gwrthdrawiad.

Fe wnaeth Les Rees, 41 oed, daro car Terry Hill ar ffordd osgoi yr A4233 ym mhentref Aberllechau yn Rhondda Cynon Taf ar 16 Mehefin.

Fe wnaeth Rees, o Lynrhedynog, gyfaddef gyrru dan ddylanwad alcohol a gyrru'n beryglus.

Yn ogystal â'i ddedfryd o garchar, mae wedi cael ei wahardd rhag gyrru am 14 mlynedd.

Clywodd y llys bod ganddo 155 miligram o alcohol ar gyfer pob 100 mililitr o waed. Y terfyn cyfreithiol yw 80 miligram.

Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Bu farw Terry Hill yn dilyn y gwrthdrawiad ym mis Mehefin