Cerdd rhyfel Gymraeg Ifor ap Glyn ar dŵr yn Llundain

Twr Llundain Image copyright PA
Image caption Yn ogystal â cherddi bydd pabïau cochion yn cael eu taflunio ar y tŵr tan 23:00 nos Sul

Mae cerdd gan fardd cenedlaethol Cymru i'w gweld ar wyneb Tŵr Elisabeth (Big Ben) yn Llundain er mwyn cofio'r rhai a laddwyd mewn rhyfeloedd.

Mae gwaith Ifor ap Glyn ymysg cyfres o gerddi rhyfel sydd wedi eu dewis ar gyfer Sul y Cofio.

Mae gwaith gan fardd sydd wedi ei benodi gan y teulu brenhinol, beirdd cenedlaethol eraill tair cenedl y DU ac awdur plant Prydain hefyd i'w gweld ar y tŵr yn ystod y dydd.

'Terasau' yw'r gerdd wnaeth Ifor ap Glyn ddewis.

"Cafodd fy ngherdd Terasau ei hysbrydoli gan ymweliad â mynwentydd milwrol yn y Somme; trymder y golled a gwir amhosibilrwydd 'nabod' y dynion sy'n gorwedd yno," meddai.

Mae'r ddwy fersiwn o'r gerdd wedi eu taflunio ar y tŵr, y gerdd yn y Gymraeg a'r gerdd wedi ei chyfieithu i'r Saesneg.

Image caption Cafodd Ifor ap Glyn ei ddewis fel bardd cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth

Yn ôl y bardd a gafodd ei eni a'i fagu ym mhrifddinas Lloegr, mae'n arwyddocaol bod y gerdd wreiddiol yn ymddangos ar dŵr mor adnabyddus:

"I mi fel Cymro Llundain, mae'r ffaith fod y Gymraeg am gael ei gweld mewn llythrennau breision ar un o adeiladau mwyaf symbolaidd y ddinas yn wirioneddol gyffrous.

"Dwi'm yn cofio gweld fy mamiaith yn cael ei gweld mewn unrhyw le cyhoeddus yn Llundain cyn hyn, felly bydd hyn yn rhywbeth i'w gofio."

Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo hefyd fod cynnwys y Gymraeg yn y digwyddiad Llundeinig hwn yn gydnabyddiaeth hefyd i'r miliynau ohonom sy'n byw o fewn gwledydd Prydain nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf gennym.

"Wrth i ni goffau'r rheini a gollodd eu bywydau unwaith eto, mae'n addas iawn ein bod yn cofio bod pobl o sawl diwylliant yn eu mysg."