Addysg bellach anabl 'yn sgandal gudd'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Rhian James sy'n sôn am ei "brwydr" i gael addysg bellach arbenigol i'w merch, Catrin.

Mae teuluoedd pobl ifanc sydd ag anableddau wedi dweud wrth BBC Cymru fod eu plant yn wynebu rhwystrau annerbyniol ac oedi wrth geisio derbyn darpariaeth addysg bellach.

Mae llawer o bobl ifanc anabl yn derbyn cynigion ar gyfer addysg ddyddiol mewn colegau prif ffrwd lleol, er bod gwasanaethau preswyl arbenigol ar gael mewn llefydd eraill.

Fe ddisgrifiodd un cyfreithiwr y sefyllfa fel "sgandal gudd".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am weld pawb "yn cael y cyfle i fynychu system addysg a chyflawni eu huchelgais".

'Wedi eu hanghofio'

Mae'r cyfreithiwr Michael Imperato wedi cynrychioli teuluoedd sydd yn ceisio sicrhau llefydd mewn colegau preswyl arbenigol.

Yn siarad â rhaglen Wales Today, dywedodd bod y drefn bresennol yn anheg, a bod myfyrwyr yn wynebu rhwystrau ac oedi cyn derbyn darpariaeth.

"Yn fy marn i mae dysgwyr ag anableddau yn grŵp sydd wedi eu hanghofio," meddai. "Maen nhw'n cael eu gwthio i golegau a all fod yn anaddas iddyn nhw.

"Does dim gwrthrychedd yn y system wrth asesu eu hanghenion; does dim hawl i apelio. Yn fy marn i, dyma sgandal gudd yn addysg Cymru."

Image caption Mae'r cyfreithiwr Michael Imperato wedi cynrychioli teuluoedd pobl ifanc sydd ag anableddau

Mae'r broses geisiadau'n cael ei rheoli gan Gyrfa Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Rhaid i fyfyriwr wneud cais yn gyntaf i'w coleg addysg bellach lleol, sydd fel arfer yn goleg prif ffrwd.

Caiff coleg arbenigol ond ei ystyried os bydd y coleg lleol yn gwrthod cais y myfyriwr ar y sail nad ydyn nhw'n gallu ymateb i'w gofynion.

Nid oes hawl i apelio'r penderfyniad ar hyn o bryd.

Profiad Catrin James

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Catrin James bellach yn cael addysg yng Ngholeg Pen-y-bont

Mae Catrin James o Gaerdydd yn 20 oed ac mae ganddi anableddau dysgu. Roedd ei rhieni o'r farn nad oedd y coleg addysg bellach lleol, sydd yn goleg prif ffrwd, yn gallu ateb ei gofynion.

Fe oedden nhw am iddi gael mwy o ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, sef ei iaith gyntaf, ac roedden nhw o'r farn y byddai profiad mewn coleg preswyl yn cynyddu ei hannibyniaeth.

Ychydig cyn ddechrau'r tymor, cafodd Catrin James glywed y newyddion fod ganddi le yng Ngholeg Pen-y-bont.

Yn ystod yr wythnos mae hi'n aros yn Weston House, sef canolfan breswyl arbenigol i fyfyrwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol ar dir y coleg, ac yn dychwelyd adref yn ystod y penwythnosau.

'Dim gobaith'

Dywedodd Rhian James, mam Catrin: "Bu'n rhaid i mi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, er mwyn ceisio cael ei gefnogaeth, ac yna fe gafodd ei basio mlaen i'r adran addysg ac fe wnaethon nhw gomisiynu adroddiad annibynnol gan seiciatrydd.

"Yn y pen draw fe oedden nhw'n gefnogol i'n hachos gan benderfynu mai Pen-y-bont oedd yn bendant y lle gorau i Catrin.

"Ond rwy'n gwybod faint o bobl sy'n wynebu cael swyddogion yn dweud wrthyn nhw nad oes ganddyn nhw obaith."

Yn ôl Catrin James, mae hi'n hapus yn y coleg.

"Roeddwn yn teimlo'n nerfus iawn cyn dod gan nad oeddwn yn gwybod os byddwn yn cael mynd i Goleg Penybont neu beidio.

"Ond pan nes i glywed fy mod yn gallu dod yma roeddwn yn teimlo'n hapus iawn ac fe nes i setlo i mewn yn sydyn iawn ac fe wnaeth fy nerfau ddiflannu."

Mae pum coleg addysg bellach yng Nghymru sydd yn gallu cynnig darpariaeth preswyl arbenigol.

Yn ôl Ruth Thomas, cadeirydd Natspec, y corff sy'n cynrychioli colegau addysg bellach arbenigol, mewn rhai achosion mae pobl ifanc wedi gorfod aros yn rhy hir er mwyn derbyn penderfyniadau ariannu gan Lywodraeth Cymru.

"Dydi darganfod os ydych wedi sicrhau arian ychydig wythnosau cyn i chi ddechrau yn y coleg, neu ddyddiau'n unig cyn hynny, ddim yn dderbyniol o gwbl," meddai.

"Mae oedi o'r fath i berson ifanc ag anableddau yn achosi pwysau ofnadwy ar y teulu cyfan.

"Byddem wrth gwrs yn cefnogi proses sydd yn darparu penderfyniadau amserol i deuluoedd a'r gallu i apelio unrhyw benderfyniad."

Image caption Catrin a'i chyd-fyfyrwyr yn Weston House

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ein hymrwymo i sicrhau fod pawb yng Nghymru'n cael y cyfle i fynychu system addysg a chyflawni eu huchelgais.

"Pan mae darpariaeth arbenigol yn cael ei adnabod, mae gweinidogion yn ystyried ceisiadau ac yn gwneud pob ymdrech i ymateb mewn modd amserol.

"Rydym o hyd yn ceisio ariannu darpariaeth sydd yn rhedeg am gyfnod cyfatebol i'r ddarpariaeth mewn addysg uwch prif ffrwd, ac fe fyddwn yn parhau i ystyried ceisiadau am gyfnodau hirach yn dibynnu ar anghenion unigol."

Straeon perthnasol