Y Scarlets yn curo a'r Gweilch yn colli

Image copyright Getty Images

Roedd hi'n noson gymysg i ranbarthau Cymru yn y Gwpan Eingl-Gymreig, wrth i'r Scarlets ennill a'r Gweilch golli.

Scarlets 44-21 Caerfaddon

Fe sgoriodd y Scarlets 35 o bwyntiau yn yr ail hanner i ddod yn ôl i drechu Caerfaddon.

Roedd y tîm o dros y ffin ar y blaen o 21 i 9 ar yr hanner, diolch ddau gais gan Max Lahiff, un gan Jeff Williams a throsiadau'r Cymro, Rhys Priestland.

Ond yn ôl fel storm ddaeth bechgyn tre'r sosban, gyda cheisiau gan Josh MacLeod, Tom Phillips, Emyr Phillips a dau gan Jack Condy.

Gyda chicio da gan y maswr Dan Jones, a sgoriodd 17 o bwyntiau, aeth cefnogwyr y Scarlets adre'n hapus.

Gweilch 12-15 Harlequins

Roedd hi'n noson siomedig i'r Gweilch ar gae Sain Helen, wrth iddyn nhw ildio mantais o saith pwynt.

Wedi cais cynnar Tom O'Flaherty i'r tîm cartref, fe darodd Harlequins yn ôl gyda chais gan George Naoupu.

Ond roedd hi'n 12-5 erbyn yr hanner, diolch i gais y cefnwr Dafydd Howells a throsiad Luke Price.

Er hynny, methodd y Gweilch ag ymestyn eu mantais yn yr ail hanner, ac fe gawson nhw eu cosbi am hynny.

Fe diriodd Charlie Matthews i'r ymwelwyr ac fe gipiodd Harlequins y fuddugoliaeth gyda chic gosb Tim Swiel wyth munud o'r diwedd.