Perfformiad 'rhwystredig' i Wrecsam

Image caption Dywedodd Dean Keates bod y chwaraewyr wedi "colli tempo" yn ystod y gêm

Wrecsam 0- 1 Braintree

Mae Wrecsam wedi methu sgorio unwaith eto'r tymor yma a hynny yn erbyn Braintree ar y Cae Ras.

Michael Cheek gafodd y gôl i'r ymwelwyr wedi 25 munud.

Er i Wrecsam gael sawl cyfle yn yr hanner cyntaf roedden nhw'n chwarae yn ddiddychymyg ac yn gyfyng.

Dywedodd y rheolwr Dean Keates bod y canlyniad yn un "rhwystredig" a bod y chwaraewyr wedi "colli tempo" ar ôl y 10 munud cyntaf.