Cweir i'r Dreigiau oddi cartref yn erbyn Caerlŷr

Caerlŷr 42-3 Dreigiau Gwent

Mae'r Dreigiau wedi cael cweir oddi cartref yn erbyn Caerlŷr.

Roedd y tîm cartref llawer cryfach gyda chwe chais yn dod iddyn nhw yn ystod y gêm.

Owen Williams, Adam Thompstone, Greg Bateman a Freddie Burns gafodd y ceisiadau yn yr hanner cyntaf.

Ond daeth dwy gais arall yn yr ail hanner gan Ellis Genge a Jack Roberts.

Bu'n rhaid i'r Dreigiau fodloni ar dri phwynt yn unig.

Y Sgarlets fydd gwrthwynebwyr nesa'r Dreigiau ddydd Gwener.