Buddugoliaeth agos i Gymru yn erbyn Ariannin

Image copyright Rex Features
Image caption Cais Liam Williams yn yr ail hanner

Cymru 24-20 Ariannin

Buddugoliaeth wir angenrheidiol ar ôl perfformiad trychinebus wythnos yn ôl oedd hanes tîm rygbi Cymru ddydd Sadwrn.

Ond roedd h'n gêm agos yn erbyn Ariannin yn Stadiwm Principallity.

Roedd yr hanner cyntaf yn ddi-flach a di-gyffro ac fe ddaeth y ceisiau i gyd yn yr ail hanner.

Daeth y gyntaf gan Liam Williams a'r llall gan Gareth Davies.

Ond roedd yr ymwelwyr yn gwrthod rhoi'r ffidil yn y tô ac fe ddaethon nhw yn ôl ddwywaith.

Roedd yr ail gais gan Martin Landajo yn un dadleuol ond yn golygu bod y 10 munud olaf yn un anghyfforddus i gefnogwyr Cymru.

Daeth cic gosb gan Leigh Halpenny ym munudau ola'r gêm gan olygu bod pedwar pwynt yn gwahanu'r ddau dîm.

Presenoldeb Alun Wyn Jones a Sam Warburton yn y blaenwyr wnaeth y gwahaniaeth mwyaf i berfformiad y Cymry o'i gymharu â'u hymdrech wael yn erbyn Awstralia'r wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth Liam Williams argraff hefyd wrth ddychwelyd i'r tîm.