Cymru 1-1 Serbia

Gareth Bale Image copyright Rex Features
Image caption Sgoriodd Gareth Bale gôl rhif 26 dros Gymru

Daeth ergyd i obeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd yn 2018 gyda gêm gyfartal gartref yn erbyn Serbia yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd Gareth Bale wedi rhoi Cymru ar y blaen wedi hanner awr o'r hanner cyntaf gydag ergyd o 15 llath, ond fe sgoriodd Aleksandar Mitrovic yn hwyr i gipio pwynt i'r ymwelwyr.

Eiliadu cyn i Mitrovic sgorio fe darodd Bale y postyn ben arall y cae gydag ergyd arall.

Gyda Gweriniaeth Iwerddon yn ennill yn Awstria i godi i frig Grŵp D yn rowndiau rhagbrofol y gystadleuaeth, mae Serbia a Chymru yn aros yn yr ail a thrydydd safle.

Er nad yw tîm Chris Coleman wedi colli, mae bwlch o bedwar pwynt rhyngddyn nhw a'r Gwyddelod gyda Cymru'n teithio i Ddulyn yn y gêm nesa' ym mis Mawrth 2017.

Dewis dewr Coleman

Fe benderfynodd y rheolwr ddewis pedwar amddiffynwr yn lle'r pump sydd wedi chwarae bron bob gêm i Gymru yn ddiweddar, gyda thîm llawer mwy ymosodol yn dechrau'r gêm.

Roedd Aaron Ramsey a Joe Allen yng nghanol cae gyda Hal Robson-Kanu a Sam Vokes yn ymuno gyda Bale yn y blaen.

Fe dalodd y dewrder ar ei ganfed pan aeth Cymru ar y blaen, a Robson-Kanu oedd y crewr. Fe redodd yn ddiflino ar ôl pas obeithiol a chipio'r meddiant cyn pasio at Gareth Bale.

Roedd digon o waith gan Bale i'w wneud, ond fe gurodd ei ddyn cyn troi a tharo ergyd i gefn y rhwyd o 15 llath.

Er i Serbia greu ambell hanner cyfle peryglus ni fu Wayne Hennessey o dan fawr o bwysau yn y gôl i Gymru, ond fe allai Robson-Kanu fod wedi dyblu mantais Cymru cyn yr egwyl.

Doedd yr ail hanner ddim cystal, gyda'r ddau dîm yn cael trafferth cadw'r meddiant am gyfnodau hir, ond gyda 85 munud wedi chwarae daeth cyfle arall i Bale.

Daeth ei ergyd gyda'i droed dde allan oddi ar y postyn, ac fe aeth Serbia ati i wrthymosod.... daeth y croesiad o hyd i ben Aleksandr Mitrovic ac fe rwydodd ymosodwr Newcastle United gyda pheniad aeth i mewn oddi ar y postyn.

Problem arall i Gymru oedd bod tri chwaraewr wedi gweld cerdyn melyn - Joe Allen, Joe Ledley a Gareth Bale.

Image copyright Reuters

'Gêm anodd'

Wedi'r gêm dywedodd y rheolwr Chris Coleman: "Mae chwe gêm ar ôl felly does dim angen panic. Mae'n rhaid rhoi clod i'r gwrthwynebwyr.

"Roedd hi'n gêm galed yn erbyn tîm caled, ond fyddai'n chwaraewyr ni ddim wedi gallu gwneud mwy.

"Wedi dweud hynny roedd ildio dau bwynt mor hwyr yn y gêm yn deimlad chwerw iawn."

Bydd Cymru'n teithio i Ddulyn i herio Gweriniaeth Iwerddon ar nos Wener, 24 Mawrth, 2017.