Y Cynulliad Cenedlaethol i gael pwerau dŵr newydd

Tryweryn
Image caption Yn 1965 cafodd pentref Capel Celyn ei foddi er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl, penderfyniad oedd yn ddadleuol

Bydd Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael pwerau dŵr newydd, yn dilyn cytundeb gyda San Steffan.

Ar hyn o bryd mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol yr hawl i atal deddfwriaeth yng Nghymru os ydy o neu hi'n teimlo y gallai hyn gael effaith niweidiol ar gyflenwadau dŵr neu ar ansawdd y dŵr yn Lloegr.

Ond bydd Llywodraeth Prydain yn cynnig diwygiadau i Fesur Cymru fel bod y cymal yma yn cael ei hepgor a bod cytundeb statudol rhwng y ddwy lywodraeth.

Mae disgwyl i Fesur Cymru gael ei drafod yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Mawrth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad.

Daw'r newyddion yn dilyn pwysau gan Lywodraeth Cymru a gwleidyddion y gwrthbleidiau, sydd yn credu bod y mesur yn cadw gormod o bwerau yn San Steffan.

Yn ôl Swyddfa Cymru fydd y newid ddim yn effeithio ar gwsmeriaid a ddim yn costio dim i'r trethdalwyr.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru bod y cyhoeddiad yn dangos y "berthynas gynyddol aeddfed rhwng y llywodraeth yn San Steffan a Bae Caerdydd".

Ychwanegodd bod y cyhoeddiad yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd yn cael eu cytuno o dan gytundeb Mesur Cymru: "Mae dŵr wedi bod yn fater heriol fel y bydd unrhyw un sydd yn ymwybodol o hanes diweddar Cymru yn gwybod.

"Rydw i'n falch ein bod ni nawr ar fin cytuno ar gytundeb pendant sydd yn datrys gwahaniaethau'r gorffennol ac yn cynnig eglurder ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r agwedd yma yn ganolbwynt i Fesur Cymru sydd wedi ei lunio i roi rheolaeth i bobl Cymru ynglŷn â'r penderfyniadau dyddiol sydd yn effeithio eu bywydau.

"Dyw hi ond yn naturiol bod mater difrifol fel dŵr yn rhan o'r cytundeb yma."

Atal Tryweryn arall

Mae'r Arglwydd Wigley wedi dweud y dylai unrhyw newid ganiatáu i'r Cynulliad fod â'r grym i atal Tryweryn rhag digwydd eto.

Yn 1965 cafodd pentref Cwm Celyn ei foddi er mwyn darparu dŵr i Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad gwleidyddion Cymru.

Dywedodd hefyd: "Mae Plaid wedi ymladd yn galed am flynyddoedd i gael setliad teg i Gymru ynghylch dŵr ac i sicrhau na allith mater fel Tryweryn byth godi eto.

"Dw i'n edrych ymlaen at weld beth yn union fydd gan y llywodraeth i'w ddweud ddydd Mawrth."

Cafodd y sylwadau hynny eu hategu gan Mr Cairns ar raglen Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore ddydd Llun: "Ry'n ni'n falch ein bod ni mewn sefyllfa i gywiro rhywbeth ddigwyddodd bumdeg mlynedd yn ôl.

"Mae'n gwbl anghywir fod gan lywodraeth San Steffan yr hawl i ymyrryd mewn deddfwriaeth sy'n cael ei sgwennu gan Lywodraeth Cymru ar faterion dŵr, yn enwedig ar ôl Tryweryn."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi bod yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddatganoli pwerau ynglŷn â dwr ers peth amser felly rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad.

Dim dyddiad eto

"Mae hyn yn cyd fynd gyda'r hyn wnaethon ni ofyn amdano yn ein tystiolaeth i ran dau o Gomisiwn Silk yn 2013.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at dderbyn mwy o fanylion gan Lywodraeth Prydain ynglŷn â'r mater cyn gynted ag sy'n bosib."

Dywed Swyddfa Cymru ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud pryd y bydd y cytundeb yn cael ei arwyddo, a bod angen i'r ddwy lywodraeth drafod manylion y cytundeb.