Siom i'r Gleision oddi cartref yn erbyn Caerwysg

Image copyright Getty Images

Caerwysg 62-25 Gleision

Roedd yna ddigonedd o geisiau yn y gêm ym mharc Sandy wrth i'r tîm cartref groesi ddeng ngwaith yn erbyn chwaraewyr ifanc y Gleision yng nghystadleuaeth y Cwpan Eingl-Gymreig.

Er i'r cefnwr Rhun Williams a'r asgellwr James Beal groesi ddwywaith roedd Caerwysg yn rhy gryf i'w gwrthwynebwyr o Gymru.

Fe sgoriodd maswr y Saeson, Joe Simmonds, hefyd ddau gais.

Ildiodd y Gleision gais gosb wrth geisio gwrthsefyll y pwysau gan Caerwysg oedd yn edrych yn gyfforddus ac mewn rheolaeth.

Dyw'r grasfa ddim yn ddechrau da i ymgyrch y Gleision yn y Cwpan.