Crwban wedi'i hachub oddi ar arfordir Môn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Crwban môr gafodd ei hachub oddi ar arfordir Ynys Môn

14 Tachwedd 2016 Diweddarwyd 13:43 GMT

Mae swyddogion gwarchodaeth yn ceisio achub crwban môr prin ar ôl iddi ddod i'r lan oddi ar arfordir Ynys Môn.

Cafodd yr anifail trofannol ei chanfod ddydd Sadwrn yn Tan-y-Foel, ger canolfan Sŵ Môr ym Mrynsiencyn.

Mae milfeddygon nawr yn edrych ar ôl y crwban, oedd yn "lwcus i fod yn fyw" ar ôl cael ei darganfod mewn cyflwr difrifol.