Dyn o dde Cymru wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Bryste

A37 Hursley Hill Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A37 yn Hursley Hill

Mae dyn yn ei 50au o dde Cymru wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ger Bryste ddydd Llun.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng fan Ford, lori yn cario silindrau concrid, fan Vauxhall a char Chrysler ar yr A37 yn Hursley Hill am tua 06:00.

Bu farw gyrrwr y Ford, sydd o dde-ddwyrain Cymru, o'i anafiadau.

Mae dyn 23 oed wedi ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad, a dywedodd yr heddlu bod gyrrwr pumed cerbyd hefyd wedi ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad i'r digwyddiad barhau.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw dystion, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu ar 101.