Casnewydd 4-1 Alfreton

Josh Sheehan Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Josh Sheehan wedi sgorio pedair gôl yn ei bum gêm ddiwethaf dros Gasnewydd

Roedd angen amser ychwanegol ar Gasnewydd i drechu Alfreton yn rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr wedi gornest dynn yn Rodney Parade.

Yn dilyn gêm gyfartal rhwng y ddau dîm wythnos a hanner yn ôl, bu'n rhaid iddyn nhw ailchwarae er mwyn penderfynu pwy fyddai'n wynebu Plymouth Argyle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

Y tîm cartref gafodd y gorau o'r meddiant yn yr hanner cyntaf, ond ni chafwyd llawer o gyfleoedd i gyffroi'r dorf yn Rodney Parade.

Fe newidiodd hynny ar ôl yr egwyl, wrth i ergyd Rhys Healey roi'r tîm cartref ar y blaen wedi 68 munud o chwarae.

Tarodd Alfreton yn ôl chwe munud yn ddiweddarach, gyda pheniad Adam Priestley yn dod â nhw yn gyfartal.

Gyda dim yn gwahaniaethu'r ddau dîm ar ôl 90 munud fe aeth yr ornest i amser ychwanegol, ac o fewn saith munud roedd Casnewydd nôl ar y blaen wedi Jordan Green rwydo o gic gornel.

Tro Green oedd hi i greu gôl wedyn, wrth iddo fynd heibio i amddiffynwyr Alfreton cyn rhoi'r bêl ar blât i Josh Sheehan i sicrhau'r fuddugoliaeth gyda deng munud yn weddill.

Fe ychwanegodd Jazzi Barnum-Bobb bedwaredd gôl ychydig funudau cyn y chwiban olaf, gan wneud i'r sgôr edrych tipyn yn fwy parchus nag yr oedd rhyw hanner awr ynghynt.