Leeds a Newcastle yn rhoi teyrnged i Gary Speed

Speed Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Speed gynrychioli Leeds a Newcastle yn ystod ei yrfa

Fe wnaeth cefnogwyr Leeds a Newcastle roi teyrnged i Gary Speed yn ystod gêm yn y Bencampwriaeth ddydd Sul.

Bu farw cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru yn 42 oed ym mis Tachwedd 2011.

Fe wnaeth Speed gynrychioli Leeds a Newcastle mewn gyrfa welodd yn gwneud 678 ymddangosiad proffesiynol.

Bu cefnogwyr y ddau dîm yn cofio pum mlynedd ers ei farwolaeth wrth glapio a chanu ei enw trwy'r 11eg munud - rhif y crys y bu'n gwisgo i'r ddau glwb.

Fe wnaeth Speed gynrychioli Cymru ar 85 achlysur rhwng 1990-2004, gan gael ei benodi'n rheolwr yn 2010.

Roedd rhieni Speed, Roger a Carol yn mynychu'r gêm yn stadiwm Elland Road, a gwelwyd yn diolch i'r dorf am y gefnogaeth.