Milwr 'wedi'i lofruddio' ar noson allan yn Aberhonddu

Matthew Boyd Image copyright Llun teulu
Image caption Roedd y Preifat Boyd yn cymryd rhan mewn ymarferiad gyda'r fyddin yn Aberhonddu ar y pryd

Mae llys wedi clywed y cafodd milwr ei lofruddio ym Mhowys gan ddyn oedd wedi brolio'n gynharach mai ef oedd "y dyn caletaf" yn y dref.

Roedd y Preifat Matthew Boyd, 20 oed, ar noson allan yn Aberhonddu pan ddigwyddodd yr ymosodiad honedig gan Jake Vallely.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Mr Vallely, 24 oed, wedi taro'r Preifat Boyd oddi ar ei draed a'i fwrw tra oedd ar y llawr, cyn rhedeg i ffwrdd.

Mae Mr Vallely yn gwadu llofruddiaeth, ac mae ei ffrind, Aaeron Evans, 23 oed - y ddau o ardal Aberhonddu - yn gwadu dynladdiad.

Cafodd y Preifat Boyd, oedd yn filwr yng Nghatrawd Brenhinol Gibraltar, ei ddarganfod yn anymwybodol gan yr heddlu yn oriau mân bore 15 Mai eleni.

Dywedodd Christopher Quinlan ar ran yr erlyniad bod Mr Vallely wedi dweud mai ef oedd "y dyn caletaf yn Aberhonddu" tuag awr cyn yr ymosodiad.

Image copyright MOD

"Ychydig wedi hanner nos, bu ymosodiad arno [Boyd]. Cafodd ei guro ac o ganlyniad, bu farw," meddai Mr Quinlan.

"Cafodd Matthew Boyd ei daro, aeth i'r llawr, ac wedyn cafodd ei fwrw tan nad oedd yn symud.

"Fe wnaeth Vallely lusgo a gadael ei gorff cyn rhedeg i ffwrdd."

Mae Mr Evans wedi'i gyhuddo o ddynladdiad, ac mae'r erlyniad yn honni iddo helpu yn yr ymosodiad.

Ychwanegodd Mr Quinlan: "Roedd y ddau yn rhan o'r ymosodiad ffyrnig, dideimlad wnaeth achosi marwolaeth dyn ifanc. Fe wnaeth Evans helpu ei ffrind."

Mae'r achos yn parhau.