Y pêl-droediwr Len Allchurch wedi marw yn 83 oed

Len Allchurch Image copyright Rex Features

Mae cyn-chwaraewr Cymru ac Abertawe, Len Allchurch wedi marw yn 83 oed.

Fe wnaeth yr asgellwr chwarae mwy na 600 o gemau yn y gynghrair mewn gyrfa wnaeth bara 21 mlynedd o 1950 ymlaen.

Ef oedd brawd iau un o sêr mwyaf blaenllaw Cymru, Ivor Allchurch.

Enillodd 11 o gapiau dros Gymru ac roedd yn rhan o'r garfan aeth i Gwpan y Byd 1958 yn Sweden.

Image caption Bu Len (rhes flaen, ar y chwith) ac Ivor (rhes gefn, ar y chwith) yn cynrychioli Cymru fel rhan o'r un tîm

'Asgellwr medrus'

Un sydd wedi rhoi teyrnged iddo yw Cliff Jones, a chwaraeodd gydag Allchurch i Abertawe a Chymru: "Fe dyfon ni fyny gyda'n gilydd ac fe wnaethon ni chwarae ein pêl-droed gyda'n gilydd," meddai.

"Roedden ni'n agos iawn yn ein bywyd gwaith a'n bywyd pêl-droed yn nhref Abertawe.

"Roedd yn asgellwr medrus iawn, ac yn gwmni gwych."