Amddiffynnwr Cymru, Sam Ricketts yn ymddeol o bêl-droed

Sam Ricketts Image copyright Getty Images

Mae amddiffynnwr Cymru a Coventry City, Sam Ricketts, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed.

Bu'n rhaid i'r chwaraewr 35 oed gymryd y penderfyniad oherwydd anaf i'w ben-glin.

Enillodd 52 o gapiau dros Gymru, y cyntaf ohonynt yn 2005 pan oedd yn chwarae i Abertawe.

Ers hynny mae hefyd wedi chwarae dros Hull City, Bolton Wanderers, Wolves a Swindon cyn symud i Coventry yn 2015.

Enillodd ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair gyda Hull yn 2008, ac i'r Bencampwriaeth gyda Wolves yn 2014.

Mewn datganiad, dywedodd Ricketts: "Yn dilyn cyngor meddygol rwy'n ymddeol o'r gêm ar unwaith.

"Hoffwn fachu'r cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi fy nghynorthwyo i wireddu breuddwyd plentyn i fod yn bêl-droediwr proffesiynol.

"Rwy'n ddiolchgar hefyd i bob hyfforddwr, rheolwr a chwaraewr yr wyf wedi cael y fraint o weithio gyda nhw a dysgu ganddyn nhw gydol fy ngyrfa.

"Fe fues i'n ddigon ffodus i ennill fy mara menyn ym mhob adran o'r Gyngres i'r Uwch Gynghrair, ac rwy'n hynod o falch fy mod wedi ennill 52 o gapiau dros Gymru.

"Mae'n amser nawr i edrych ymlaen at bennod newydd... rwyf yn y broses o wneud cymwysterau hyfforddi gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac rwy'n gyffrous am yr heriau sydd o 'mlaen."