Achub 100 o gŵn bach ym mhorthladd Caergybi

Puppies rescued at Holyhead Port Image copyright RSPCA
Image caption Dywedodd yr RSPCA bod y cŵn bach yn cael eu cludo mewn amgylchiadau ffiaidd

Cafodd bron 100 o gŵn bach eu hachub ym mhorthladd Caergybi fel rhan o ymgyrch i daclo mewnforio anifeiliaid yn anghyfreithlon.

Daeth y cŵn bach i'w wlad ar ddwy fferi wahanol cyn i Lu'r Ffiniau eu hatal ddydd Mawrth, 15 Tachwedd.

Roedd y cŵn bach - amryw o fridiau gwahanol a'r mwyafrif yn 6-7 wythnos oed - yn cael eu cadw mewn amgylchiadau "ffiaidd".

Dywedodd yr RSPCA: "I werthwyr diegwyddor, dyw'r cŵn bach yma yn ddim byd ond ffordd o wneud arian."

Image copyright RSPCA
Image caption Corhelgi yn cael ei archwilio gan filfeddyg

Ar ôl i filfeddyg eu harchwilio, fe gafodd y cŵn bach eu cludo yn ôl i Iwerddon lle byddan nhw'n cael gofal gan y DSPCA cyn cael eu hailgartrefu.

Ymhlith y bridiau roedd labradoodles, cŵn bach Pomeranian, corhelgwn a helgwn Basset.

Dywedodd Ian Briggs o uned gweithredu arbennig yr RSPCA: "Mae hon yn enghraifft syfrdanol arall o bobl sy'n barod i dorri'r gyfraith a pheryglu lles anifeiliaid diniwed er mwyn gwneud ceiniog neu ddwy.

"Yn ffodus fe gafodd y rhain eu hatal."

Image copyright RSPCA