'Defnyddiwch eich Cymraeg'

Deris Williams Image copyright Deris Williams
Image caption Deris Williams

Mae'n chwarter canrif ers i'r Fenter Iaith gyntaf gael ei sefydlu yng Nghwm Gwendraeth yn 1991. Erbyn hyn mae 'na 23 ohonyn nhw. Ar ddydd Iau, 17 Tachwedd, mae Mentrau Iaith Cymru yn nodi'r garreg filltir a'r gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg yn y cymunedau.

Roedd Deris Williams yn Gyfarwyddwr ar Fenter Iaith Cwm Gwendraeth am 21 mlynedd. Bu hi'n sôn wrth Cymru Fyw am waith y Fenter a'r heriau sy'n ei hwynebu yn y dyfodol:


Dim byd i gael

Pan ddechreues i ym Menter Cwm Gwendraeth yn 1991, doedd dim byd i gael. Dim ond Cefin Campbell a finne, ac o'dd yn rhaid i ni dorri cwys ein hunain.

Nod Menter Iaith yw normaleiddio'r Gymraeg ar lefel gymunedol, a beth mae'r Mentrau Iaith wedi 'neud dros y blynyddoedd yw codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg.

Fe ddyle Menter Iaith fod yn rhywbeth sydd wedi ei deilwra'n arbennig ym mhob ardal. Mae beth mae Menter Cwm Gwendraeth yn ei wneud fod i ateb gofynion pobl yr ardal honno ac fe ddyle Menter Môn ateb gofynion Sir Fôn. Mae'n gorfod bod yn rhywbeth lleol yn cwrdd â gofynion lleol.

Petasai'r Fenter ddim yn bod, bydde'r nifer sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2011 ddim cystel. Mae cymaint o bobl wedi symud mewn i'r ardal ac wedi gadael yr ardal i weithio, wrth gwrs mae hynny wedi cael effaith a mae 'na resymau economaidd hefyd.

Image caption Mae Ysgol Maes y Gwendraeth yng Nghefneithin yn ateb i'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn Sir Gâr

Addysg Gymraeg yn ffynnu

Ond i edrych yn bositif yng Nghwm Gwendraeth, mae 'na ysgol gyfun Gymraeg gyda ni erbyn hyn. Mae addysg yn yr ardal wedi cael ei ad-drefnu oherwydd bod cymaint o alw am addysg Gymraeg.

Wrth edrych i'r dyfodol ac ystyried ffyniant i'r Gymraeg yn y cymunedau a llwyddiant y Mentrau Iaith, mae'n rhaid gweithio gyda'r bobl leol a'u hannog i ddefnyddio'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael.

Y ffordd ymlaen i'r Mentrau Iaith yw i sicrhau perchnogaeth leol ac i weithio gydag asiantaethau lleol. Dwi'n credu bod yn rhaid i'r Mentrau fynd at y bobl a pheidio disgwyl i'r bobl ddod atyn nhw. Mae angen mynd mewn i glybiau chwaraeon, mynd at yr hyfforddwyr pêl-droed a rygbi i gydweithio. Gall y Mentrau ddim 'neud y cyfan ar eu pen eu hunain.

Yr hyn o'n i'n ei glywed o hyd, dros yr un mlynedd ar hugain yn gweithio i'r Fenter oedd, "So Nghymrâg i'n ddigon da". Mae'r neges yn glir. Beth bynnag yw safon y Gymraeg, defnyddiwch hi. Dim ond os mae'n cael ei defnyddio, mae hi'n mynd i barhau.

Image copyright Mick Robb
Image caption Mae Menter Iaith Cwm Gwendraeth wedi sicrhau bod y Gymraeg yn dal yn iaith fyw yn yr ardal