Cymru yn gwneud 10 newid i herio Japan

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Enwau newydd ond digon o brofiad gan Gymru, medd Gareth Charles

Mae Cymru wedi gwneud 10 newid i'r tîm wnaeth drechu Ariannin i herio Japan yn eu trydedd gêm yng Nghyfres yr Hydref ddydd Sadwrn.

Gareth Anscombe fydd yn dechrau fel maswr, gyda Sam Davies ar y fainc a Dan Biggar yn cael seibiant.

Mae Jamie Roberts yn dychwelyd i'r tîm ar ôl colli ei le'r wythnos ddiwethaf.

Bydd Cory Hill yn dechrau ei gêm ryngwladol gyntaf yn yr ail-reng, tra bod asgellwr 18 oed y Gweilch, Keelan Giles wedi'i gynnwys ar y fainc am y tro cyntaf.

Mae Liam Williams a Leigh Halfpenny yn cyfnewid safleoedd, gyda Williams yn symud i safle'r cefnwr.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gareth Anscombe a Lloyd Williams fydd yn dechrau fel haneri ddydd Sadwrn

Bydd Sam Warburton yn chwarae yn y safle y mae'n ffafrio fel rhif 7, ac ef fydd yn dychwelyd fel capten ar ôl i Gethin Jenkins arwain y tîm y penwythnos diwethaf.

Lloyd Williams fydd yn dechrau fel mewnwr gyda Gareth Davies yn symud i'r fainc.

Mae'r rheng-flaen wedi newid yn llwyr, gyda Nicky Smith, Scott Baldwin a Samson Lee yn dechrau.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gall Keelan Giles wneud ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ddydd Sadwrn

Cymru v Japan

Cymru: Liam Williams; Leigh Halfpenny, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Alex Cuthbert; Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Nicky Smith, Scott Baldwin, Samson Lee, Cory Hill, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), James King.

Eilyddion: Kristian Dacey, Rhys Gill, Scott Andrews, Jake Ball, Ross Moriarty, Gareth Davies, Sam Davies, Keelan Giles.

Japan: Kotaro Matsushima; Akihito Yamada, Timothy Lafaele, Harumichi Tatekawa (capten), Kenki Fukuoka; Yu Tamura, Fumiaki Tanaka; Satoshi Nakatani, Shota Horie, Kensuke Hatakeyama, Kyosuke Kajikawa, Samuela Anise, Malgene Ilaua, Shunsuke Nunomaki, Amanaki Mafi.

Eilyddion: Takeshi Hino, Koki Yamamoto, Heiichiro Ito, Uwe Helu, Shuhei Matsuhashi, Yuhimaru Mimura, Keisuke Uchida, Amanaki Lotoahea.