Cymru 'mor barod ag sy'n bosib' i wynebu heriau'r gaeaf

Iechyd

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru "mor barod ag y gall fod" i wynebu pwysau'r gaeaf, medd yr Ysgrifennydd Iechyd.

Ond dywedodd Vaughan Gething wrth ACau nad oedd y gwasanaeth iechyd yn "berffaith" ac y byddai yna "ddyddiau eithriadol o anodd" dros y misoedd nesaf.

Roedd Mr Gething yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd y Cynulliad fel rhan o'r ymchwiliad i baratoadau'r GIG dros y gaeaf.

Dywedodd Mr Gething, er ei fod yn hyderus fod y gwasanaeth "yn fwy parod na'r gaeaf diwethaf a'r gaeaf cynt", roedd 'na heriau'n dal i'w hwynebu o ran lefelau staffio a chwtogi'r oedi wrth symud a rhyddhau cleifion o'r ysbyty.

Dywedodd hefyd, er gwaethaf rhai enghreifftiau da, bod angen gwaith pellach wrth geisio sicrhau y gall pobl gael gofal yn y gymuned ac yn agosach at adref.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £50m i helpu byrddau iechyd i ddelio â phwysau'r gaeaf.

Image caption Un o'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd dros y gaeaf yw symud a rhyddhau cleifion pan fyddan nhw'n ddigon iach i fynd adref

Pan ofynnwyd iddo ym mhle y byddai'r arian yn cael ei wario, dywedodd yr ysgrifennydd iechyd y byddai'n cael ei ddefnyddio er mwyn gwella amseroedd aros ar gyfer triniaethau oedd wedi eu cynllunio a phrofion diagnostig.

Gofynnodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Angela Burns iddo am bryderon fod gormod o gleifion, yn enwedig cleifion oedrannus yn wynebu oedi cyn cael eu rhydau o'r ysbyty oherwydd problemau wrth geisio trefnu gofal.

Dywedodd Mr Gething fod y problemau hynny wedi bod yn lleihau dros y blynyddoedd diwethaf, ond ychwanegodd nad oedd yn hapus a'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd, ac y gallai'r mater fod yn her wirioneddol dros y gaeaf hwn.

Gofynnodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth a oedd gan y gwasanaeth iechyd ddigon o le i ddelio a'r cynnydd yn y galw am ei gwasanaethau dros y gaeaf, o gofio fod dros 90% o welyau'n llawn mewn rhai ysbytai.

Cadarnhaodd Mr Gething y byddai 300 o welyau ar gael i ddelio a'r galw, ond mae'r her wirioneddol oedd sicrhau digon o staff ar eu cyfer.

Pryderon

Mae nifer o gyrff meddygol eisoes wedi codi pryderon gerbron y pwyllgor iechyd nad yw'r gwasanaeth mewn sefyllfa ddigon cryf i ymateb yn ddigonol i'r pwysau ychwanegol.

Maen nhw'n poeni na fydd digon o staff na gwlâu i ateb y galw, y bydd cynnydd yn yr oedi cyn gallu rhyddhau cleifion o ysbytai, ac am y ffaith y gallai tua chwarter y cleifion sy'n cyrraedd unedau brys fod wedi cael eu trin.

Wrth gydnabod y bydd y gaeaf yn gyfnod "heriol", mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y bydd y gwasanaeth iechyd yn llwyddo i gynnal gwasanaethau cadarn yn dilyn proses cynllunio gynhwysfawr.

Mae'r baich ar wasanaethau iechyd yn sylweddol gydol y flwyddyn, ond mae'r straen yn cynyddu yn ystod y gaeaf oherwydd bod mwy o alw am ofal gan gleifion sy'n ddifrifol wael.

Mae nifer o ffactorau yn gyfrifol am hyn, gan gynnwys:

  • Poblogaeth sy'n heneiddio ac o ganlyniad yn fwy bregus;
  • Effaith tywydd gwael;
  • Cynnydd mewn afiechydon fel ffliw, a'u heffaith ar gleifion a staff;
  • Effaith gwyliau banc dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ar wasanaethau.

Mae byrddau iechyd ynghyd ag awdurdodau lleol, yn ôl yr ysgrifennydd iechyd, wedi bod yn cydweithio ers peth amser ac wedi ystyried gwersi'r gaeaf diwethaf.

Ond o edrych yn fanwl, mae'r cynlluniau hynny yn rhoi darlun clir o'r heriau sy'n debygol o godi.

Gwasanaeth ambiwlans

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Jonathan Sweet o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn esbonio pwrpas cerbyd brys sy'n rhan o'r cynllun gaeaf

Mae cynllun gaeaf y gwasanaeth ambiwlans yn sôn am gynnydd sylweddol y gaeaf diwethaf yn nifer yr achosion niweidiol difrifol gafodd eu cofnodi, oherwydd y bu'n rhaid i ambiwlansys aros y tu allan i unedau brys gorlawn cyn gallu trosglwyddo cleifion.

Yn ôl y cynllun, bydd y gwasanaeth yn barod eleni i drosglwyddo cleifion, pan fo angen, i gerbyd arbennig allai gael ei leoli y tu allan i unedau brys ar adegau pan fo'r galw yn eithriadol o uchel.

Byddai'r cerbyd yn cynnwys gwlâu a staff fyddai'n galluogi ambiwlansys i gael ei rhyddhau i ymateb i alwadau difrifol eraill.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn treialu cynllun mewn tair ardal yng Nghymru fydd yn gweld parafeddygon yn cydweithio â meddygfeydd lleol er mwyn ceisio cynnig mwy o ofal i unigolion hŷn a bregus yn eu cartrefi pan fo hynny'n addas, yn hytrach nag mewn ysbyty.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Jason Roome yn esbonio sut y bydd cleifion yn elwa wrth i barafeddygon gydweithio â meddygfeydd

Heriau'r Byrddau Iechyd

Abertawe Bro Morgannwg

Mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod prinder gwlâu y gaeaf diwethaf, a hynny yn rhannol oherwydd oedi diangen cyn gallu rhyddhau rhai cleifion o'r ysbyty. Mae Ysbyty Treforys yn Abertawe yn gweithredu cynllun newydd fydd yn ceisio sicrhau bod rhagor o gleifion yn gallu gadael yr ysbyty erbyn amser cinio pan fo hi'n briodol gwneud hynny.

Cwm Taf

Un o amcanion cynllun gaeaf Bwrdd Iechyd Cwm Taf yw gwella'r berthynas rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn ceisio lleihau nifer y cleifion sy'n cael eu trosglwyddo i ysbytai yn ddiangen. Yn ôl y bwrdd iechyd, mae'r broses bresennol yn glogyrnaidd.

Aneurin Bevan

Mae prinder nyrsys yn risg penodol sy'n cael ei amlygu yn y de ddwyrain a allai, yn ôl y bwrdd iechyd, effeithio ar ei allu i agor gwelyau ychwanegol pan fo'r galw yn uchel.

Betsi Cadwaldr

Yn y gogledd, mae'r bwrdd iechyd yn dweud fod 'na risg y gallai perfformiad ar amseroedd aros mewn unedau brys ddirywio'n sylweddol. Maen nhw'n dweud bod cynlluniau manwl i sicrhau fod digon o staff yn gweithio dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

Caerdydd a'r Fro

Mae'r bwrdd yn bwriadu agor gwlâu ychwanegol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth - yn ogystal â sicrhau bod staff ychwanegol ar ddyletswydd mewn unedau brys.

Hywel Dda

Mae oedi diangen cyn gallu trosglwyddo cleifion o ysbytai yn bryder penodol yn y gorllewin. Mae'r bwrdd iechyd yn dweud ei bod yn ceisio recriwtio rhagor o nyrsys cymunedol.

Powys

Ymhlith mesurau eraill, mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu cynyddu'r defnydd o wardiau "rhithwyr", gyda'r gobaith y bydd modd i ragor o gleifion aros yn eu cartrefi dan ofal timau cymunedol.


Y tu hwnt i hynny, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi £50m o gyllid ychwanegol er mwyn cefnogi'r gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn.

Bydd yr arian yn cael ei dargedu, yn ôl prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Andrew Goodall i geisio sicrhau bod y gwelliant diweddar mewn amseroedd aros ar gyfer triniaethau a phrofion deiagnostic yn cael ei gynnal yn ystod y gaeaf.

Straeon perthnasol