Arddangosfa pabïau Castell Caernarfon yn dod i ben

Weeping Window Image copyright Mike Dean

Bydd gwasanaeth yn cael ei chynnal yng Nghastell Caernarfon ddydd Sul ar ddiwrnod olaf cerflun pabïau'r "Weeping Windows" yn y dref.

Bydd Gardd Goffa'r Rhyfel Mawr yn cael ei chau fel rhan o'r gwasanaeth, fydd yn cael ei chynnal am 14:15.

Cafodd yr arddangosfa ei agor ym mis Hydref i dalu teyrnged i'r 4,000 o Gymry a gollwyd neu anafwyd ym Mrwydr Coed Mametz yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gwirfoddolwyr Cymdeithas Feteran Caernarfon fu'n gofalu amdani trwy gydol y pedwar mis ers iddo agor.

Mae mwy na 10,000 o groesau pren hefyd wedi cael eu gosod yno ers 7 Gorffennaf, ac fe gafodd fwy na £51,000 ei godi ar gyfer yr Apêl Pabi.

Image copyright Mike Dean