Rhybudd i deithwyr cyn gêm Cymru v Japan yng Nghaerdydd

Caerdydd Image copyright Google
Image caption Bydd cyfyngiadau ar nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas wrth i Gymru chwarae yn Stadiwm Principality

Mae rhybudd i deithwyr yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn gyda disgwyl torf fawr i wylio Cymru'n herio Japan yn Stadiwm Principality.

Dywedodd Cyngor Caerdydd y bydd cyfyngiadau ar ffyrdd yng nghanol y ddinas rhwng 12:30 a 17:30.

Mae Trenau Arriva Cymru yn cynghori pobl sy'n mynd i'r gêm i gyrraedd y ddinas o leiaf tair awr cyn y gic gyntaf am 14:30.

Mae Gorsaf Heol y Frenhines yn cau am 16:00, a bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair ar gau rhwng 12:00 a 17:30.

Bydd system giwio mewn grym yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog wedi'r gêm.

Oherwydd gêm bêl-droed rhwng Caerdydd a Huddersfield yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd cyfyngiadau yng ngorsafoedd Grangetown a Pharc Ninian.

Ni fydd bysiau yn stopio yng nghanol y ddinas yn ystod y prynhawn, gyda gwasanaethau i'r dwyrain yn mynd i Churchill Way, i'r gogledd yn mynd i Heol y Brodyr Llwydion, ac i'r gorllewin i Tudor Street.

Image copyright Graham Hogg/Geograph
Image caption Bydd system giwio mewn grym yng ngorsaf Caerdydd Canolog

Cyfyngiadau ffyrdd

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug;
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan at y gyffordd â Heol y Porth;
  • Tudor Street o'r gyffordd â Clare Road at y gyffordd â Stryd Wood;
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place at y cyffyrdd â Tudor Street;
  • Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.