Ymgyrch i achub 'cartref ysbrydol' ambiwlans St John

Eglwys Sant Ioan Image copyright Chris Downer/Geograph

Mae ymgyrch wedi cael ei lansio i achub un o gartrefi ysbrydol elusen ambiwlans St John yng Nghymru.

Fe wnaeth Eglwys Sant Ioan yn Ysbyty Ifan, Gwynedd, gau fel addoldy fis diwethaf oherwydd diffyg niferoedd.

Mae ymgyrchwyr yn dweud ei fod yn lleoliad hanesyddol pwysig a bod angen diogelu'r adeilad.

Dywedodd llefarydd o'r Eglwys yng Nghymru ei fod yn "gweithio gyda'r gymuned leol i geisio gweld os oes dyfodol newydd ar gyfer yr adeilad".

'Gwerthu neu rentu'

Mae grŵp Ffrindiau Eglwys Sant Ioan wedi cael ei sefydlu ac maen nhw mewn trafodaethau gyda'r Eglwys yng Nghymru i ddiogelu'r adeilad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Byddwn yn bendant yn gweithio gyda chynrychiolwyr o'r gymuned i weld be all gael ei gyflawni - gall hyn gynnwys gwerthu neu rentu'r adeilad.

"Bydd union ddefnydd yr adeilad hefyd yn dod yn fwy clir wrth i'r gymuned ystyried ei hopsiynau."