Cyfres yr Hydref: Cymru 33-30 Japan

Sam Davies Image copyright Getty Images
Image caption Dim ond ail ymddangosiad rhyngwladol Sam Davies oedd hon

Fe wnaeth yr eilydd Sam Davies achub Cymru rhag cael gêm gyfartal yn Stadiwm Principality wrth iddo sgorio gôl adlam yn y munud olaf i drechu Japan.

Bu bron i gais Amanaki Lotoahea a throsiad Yu Tamura yn y 76ain munud sicrhau canlyniad hanesyddol i Japan mewn gêm gyffrous yng Nghaerdydd.

Roedd Cymru ar y blaen o 11 pwynt yn dilyn ceisiau gan Dan Lydiate, Jamie Roberts a Sam Warburton.

Yr asgellwyr Akihito Yamada a Kenki Fukuoka oedd sgorwyr ceisiau eraill yr ymwelwyr.

Gêm flêr

Fe wnaeth Leigh Halfpenny gicio 15 pwynt wrth i wythwr Japan, Amanaki Lelei Mafi gael ei enwi fel seren y gêm.

Dim ond ail ymddangosiad rhyngwladol Davies oedd hon, a llwyddodd i gicio'n gywir yn y munud olaf i achub Cymru wedi iddo gymryd lle Gareth Anscombe o'r fainc.

Ond y foment yma oedd un o ychydig enghreifftiau o safon gan Gymru, mewn gêm flêr, llawn camgymeriadau.

Roedd Japan, gyda'r maswr Tamura wedi cicio'n gywir a Mafi wedi gweithio'n ddiflino, yn ddealladwy yn siomedig ar y chwiban olaf.