Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-2 Huddersfield

Sean Morrison Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd tair gôl yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd dros Huddersfield yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth Sean Morrison benio cic gornel i'r rhwyd cyn i Junior Hoilett sgorio ei gôl gyntaf i'r Adar Gleision i ddyblu eu mantais.

Llwyddodd Tommy Smith i daro 'nôl i'r ymwelwyr cyn i Rickie Lambert roi Caerdydd ar y blaen o ddwy gôl unwaith eto.

Fe wnaeth ergyd wych Philip Billing o ymyl y cwrt cosbi ei gwneud yn ddiweddglo cyffrous ond roedd y clwb o Gymru wedi gwneud digon i sicrhau'r triphwynt.