Adran 2: Notts County 0-3 Casnewydd

Rhys Healey Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Rhys Healey wnaeth ddyblu mantais Casnewydd gydag ergyd o bellter

Fe wnaeth Josh Sheehan sgorio ei bumed gôl mewn chwe gêm wrth i Gasnewydd sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Notts County.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi i Sean Rigg sgorio gyda'i ail ergyd ar ôl i Adam Collin arbed ei gic o'r smotyn.

Dyblwyd eu mantais ychydig funudau'n ddiweddarach wrth i ergyd Rhys Healey o bellter ganfod y rhwyd cyn hanner amser.

Fe wnaeth Sheehan sicrhau'r fuddugoliaeth gydag ergyd wych o'r tu allan i'r cwrt cosbi.