Y Gynghrair Genedlaethol: Torquay 1-1 Wrecsam

Pêl-droed Image copyright Getty Images

Fe wnaeth gôl hwyr Kieffer Moore achub pwynt i Torquay ac atal Wrecsam rhag sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair mewn pum gêm.

Gerry McDonagh roddodd Wrecsam ar y blaen yn dilyn gwaith da gan Jordan Evans.

Bu bron i Mark Carrington ddyblu'r fantais wrth i'w ergyd daro'r postyn cyn i Moore a Nathan Blissett daro'r traws i'r tîm cartref.

Aeth Moore yn agos unwaith eto gyda'i ben cyn sgorio gyda dau funud yn weddill, sy'n golygu bod Dean Keates yn parhau i ddisgwyl am ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr y Dreigiau.