Buddugoliaethau i ddau Gymro cyntaf yr UFC

Brett Johns v Kwan Ho Kwak Image copyright Getty Images
Image caption Brett Johns yn herio Kwan Ho Kwak o Dde Korea

Mae'r ddau Gymro cyntaf i ymladd yn yr Ultimate Fighting Championship (UFC) wedi ennill eu gornestau cyntaf.

Llwyddodd Brett Johns a Jack Marshman i sicrhau buddugoliaethau yn yr SSE Arena yn Belfast nos Sadwrn

Roedd Johns, 24 oed o Abertawe, yn ymladd yn erbyn Kwan Ho Kwak o Dde Korea.

Fe wnaeth y tri o feirniaid ddyfarnu bod Johns wedi ennill pob un o'r tair rownd, gyda'r tri yn rhoi'r fuddugoliaeth iddo o 30-27.

Roedd yr ornest yn amlwg yn golygu llawer i Johns, ac roedd yn ei ddagrau wrth gynnal ei gyfweliad yn yr octagon ar ôl ei fuddugoliaeth.

Mae'r canlyniad yn golygu bod record berffaith y Cymro'n parhau, a dyma oedd ei 13eg fuddugoliaeth yn ei yrfa broffesiynol.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Jack Marshman wedi arwyddo cytundeb ar gyfer o leiaf pedair gornest gyda'r UFC

Roedd Marshman, 26 oed o Abertyleri, yn herio Magnus Cedenblad o Sweden yn hwyrach yn y noson.

Ar ôl rownd gyntaf anodd, llwyddodd y Cymro i daro Cedenblad i'r llawr yn yr ail rownd cyn i'r dyfarnwr ddod a'r ornest i ben.

Mae crefftau ymladd cymysg, neu mixed martial arts (MMA) yn fath o ymladd sy'n gweld cystadleuwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys reslo, bocsio, karate a jiwdo.

Yr UFC yw prif gystadleuaeth MMA y byd, ac mae bellach werth mwy na £3bn.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Bu Brett Johns yn siarad gyda BBC Cymru cyn y noson fawr yn yr SSE Arena