Cymro ar waelod y byd

Huw Griffiths Image copyright Huw Griffiths

Mae Huw Griffiths yn wreiddiol o bentref Llanon yng Ngheredigion ond bellach wedi bod yn ei swydd fel Biolegydd Môr yn y British Antarctic Survey yng Nghaergrawnt ers 16 mlynedd. Mae'n teithio i Antarctica fel rhan o'i swydd i astudio'r creaduriaid sydd yno.

Soniodd wrth Cymru Fyw am ei brofiadau yn byw a gweithio ar waelod y byd:


Creaduriaid hyll

Rydw i'n edrych ar y bywyd gwyllt sydd ar wely'r môr. Mae gennym ni staff gwahanol sy'n edrych ar y pengwiniaid a'r morloi (y pethau ciwt fel yna!), a rhai eraill yn astudio pethau fel pysgod, ond y pethau 'hyll' sydd yn mynd â mryd i - y pryfaid bach sy'n byw ar y gwaelod - rhai sydd â dim llygaid, neu lawer o lygaid, dim coesau, neu lawer o goesau!

Mae'r rhan fwyaf o greaduriaid Antarctica yn byw ar wely'r môr, ac mae gennym ni enwau i tua 12,000 ohonyn nhw - ond mae'n siŵr fod yna'r un nifer eto o rai dydyn ni heb roi enwau iddyn nhw. Bob tro rydyn ni'n mynd yno, rydyn ni'n darganfod rhywogaethau newydd - 'naethon ni ddarganfod rhyw 10 ohonyn nhw'r tro diwethaf.

Mae'r môr o amgylch Antarctica yn ddyfnach nag ardaloedd eraill y byd. Os yw'r ardal yn union o amgylch Ewrop tua 200m o ddyfnder, yna mae'r Antarctica tua 1,000m - ond weithiau rydyn ni'n gweithio i ddyfnder o hyd at 2,500m.

Image copyright British Antarctic Survey

Rydyn ni'n gollwng camerâu i lawr i dynnu lluniau o wely'r môr a mathau arbennig o rwydi er mwyn codi creaduriaid. Does dim modd i ni weld o'r lluniau camera bob tro os yw'r creadur yn rywogaeth newydd neu beidio, felly mae'n rhaid cael samplau.

Dydy'r samplau ddim yn ein cyrraedd nôl yma am fisoedd ar ôl y daith, gan fod y llong yn treulio'r gaeaf yno ac wedyn yn hwylio'r holl ffordd adref. Felly rydw i wrthi ar hyn o bryd yn mynd drwy bopeth o'r daith ddiwethaf, ac yn anfon y samplau at arbenigwyr ledled y byd. Bydd y gwaith o astudio ac adnabod y samplau yn cymryd ychydig o flynyddoedd.

Bywyd ar y môr

Pan dwi yno, dwi'n gweithio a byw ar long, weithiau am hyd at ddau fis a hanner ar y tro. Roedd y daith ddiwethaf yn fis, sydd yn eithaf byr, yn enwedig o ystyried ei bod hi'n cymryd bron i wythnos i deithio yno o Ynysoedd Falklans neu rhywle arall yn Ne America. Rydyn ni'n eu galw yn research cruises, ond credwch fi, does yna ddim buffets am hanner nos na llond y lle o cocktails!

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dydy'r daith ar y llong ddim wastad yn esmwyth

Er mae hi'n bosib y byddwn ni'n cael bwyd am hanner nos weithiau, oherwydd ei bod hi'n olau am 24 awr y dydd, felly mae'r diwrnod gwaith yn eithaf gwahanol - weithiau rydyn ni'n gweithio 7pm i 7am.

Mewn 'chydig o flynyddoedd, byddwn ni'n cael llong newydd, sef y Sir David Attenborough (y cwch gafodd ei alw yn wreiddiol yn Boaty McBoatface, yn dilyn pleidlais gyhoeddus).

Rydyn ni weithiau'n teithio rhwng y gorsafoedd ymchwil ar y tir yn cludo offer i bobl, gwagio gwastraff neu godi pobl i fynd adref. Mae 'na amrywiaeth o bobl yn y gorsafoedd; unrhyw berson sydd ei angen i aros yn fyw, o ddoctoriaid, i gogyddion, i fecanics.

Mae rhai gorsafoedd yn aros ar agor dros y gaeaf, ac yn ystod yr amser yma, does neb yn gallu gadael na chyrraedd heb ymdrech ryngwladol fawr, felly mae'n hanfodol cael rhywun ar y safle a allai drwsio generadur trydan sydd wedi torri - yn enwedig pan fo'r tymheredd tu fas yn -50°!

Image copyright Huw Griffiths

Ar y llongau, mae 'na griw o tua 30 a hyd at 30 o wyddonwyr - sy'n golygu fod pob gwely yn cael ei ddefnyddio. Rwyt ti felly yn gweithio, bwyta a byw gyda'r un 60 person - a does gen ti 'nunlle i ddianc. Mae e bron fel bod yn nhŷ Big Brother, ond yn ffodus, does neb yn cael ei gicio mas!

Dyma un o'r agweddau anoddaf am y teithiau hyn - mae pawb yn meddwl mai'r teithio a'r tywydd fyddai anoddaf, ond mae'n rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o ddod ymlaen 'da phobl.

Yn ffodus, mae ganddon ni fwy o ffyrdd i adlonni ein hunain nag oedd yn y gorffennol - gallwn ni ddod â channoedd o ffilmiau, llyfrau a chaneuon 'da ni ar declyn bach. A does dim modd dianc rhag yr e-byst, wrth gwrs. Mae'r we braidd yn araf... ond mi ydyn ni ar waelod y byd, felly dydi hi ddim yn syndod!

Rydyn ni felly yn gallu cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau adref. Mae fy mhartner yn ddaearegwr yma hefyd, felly rydyn ni ar wahân yn eithaf aml gan fod y ddau ohonon ni'n gweithio i ffwrdd - ond o leiaf rydyn ni'n deall gwaith y llall.

Ro'n i yma dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd yn 2014 - am brofiad rhyfedd oedd clywed Old Lang Syne yn cael ei chanu ar gwch yng nghanol oerni'r Antarctica am hanner nos, a hithau'r haul braf fel 'tasai hi'n ganol dydd! Ond o leiaf, yn wahanol i Gymru, ges i Nadolig gwyn!

Image copyright Huw Griffiths
Image caption Dyma'r llong bresennol, ond mewn ychydig flynyddoedd, bydd y gwyddonwyr yn gweithio ar Boaty McBoatface... sori, y Sir David Attenborough!