Cyhoeddi enillydd Gwobr Drama Cymru 2016

Gwobr Drama Cymru Image copyright Other
Image caption William Smith gyda rhai o'r beirniaid, Anne Edyvean, Bethan Jones a Kully Thiarai.

William Smith o Abertawe yw enillydd Gwobr Drama Cymru 2016, am ei ddrama 'Residue'.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi mewn seremoni yn Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd.

Mae Gwobr Drama ddwyflynyddol Cymru, am ysgrifennu yn Saesneg, yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng BBC Cymru a National Theatre Wales mewn partneriaeth agos â BBC Writersroom, ac mae'n agored i unrhyw awdur sy'n byw yng Nghymru.

Fe raddiodd William mewn astudiaethau ffilm ym Mhrifysgol Casnewydd cyn mynd ymlaen i weithio fel cynyrchydd a chyflwynydd ar Radio Caerdydd.

Ers graddio, mae wedi ysgrifennu ffilm fer, King of The Castle, a wnaed fel rhan o'r cynllun It's My Shout ac a ddarlledwyd ar BBC2 Cymru yn 2011, a Lift Jockeys, ffilm fer a gynhyrchwyd yn 2014.

'Ysfa i ddweud straeon'

Roedd dros 250 o awduron wedi ymgeisio am y wobr, gyda Hardey Speight, Jonathan Jones a Bethan Marlow hefyd yn cyrraedd y rownd derfynol.

Dywedodd Anne Edyvean o BBC Writersroom: "Mae ysgrifennu William yn eich gorfodi i droi'r dudalen, yn eich cydio gyda'i ddawn am rannu stori a chreu delweddau gweledol gwych.

"Mae gan William ysfa am ddweud straeon sydd wedi'u gosod mewn bydoedd sydd yn dra wahanol i'n un ni, ond sydd yn ddigon cyfarwydd i ganu cloch gyda'r gynulleidfa - yn aml, y sylfaen yw'r cwestiwn 'Beth petai...?'"

Bydd William Smith yn derbyn £10,000 a'r cyfle i ddatblygu ei waith gyda BBC Cymru, BBC Writersoom a National Theatre Wales.