Tân 'difrifol' mewn siop sglodion ym Mhorth Tywyn

tan

Mae 20 o ymladdwyr tân yn ceisio diffodd fflamau mewn siop sglodion ym Mhorth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Fe gafodd criwiau eu galw i Heol yr Orsaf yn y dre ychydig cyn 20:00.

Mae'n debyg bod y tân yn ddifrifol a'i fod yn effeithio ar adeiladau gerllaw.

Does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi ei anafu, ond mae trenau wedi eu hatal ar y rheilffordd gerllaw ohewrydd y mwg.