Ymchwiliad i dân siop sglodion

Tan Porth Tywyn Image copyright Luke Marshall

Mae'r gwasanaeth tân yn cynnal ymchwiliad i achos tân mewn siop sglodion ym Mhorth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Fe gafodd criwiau eu galw i Heol yr Orsaf yn y dre ychydig cyn 20:00 nos Fawrth.

Bu'n rhaid i bobl mewn adeiladau gerllaw adael eu cartrefi, ac fe gafodd trenau eu hatal ar y rheilffordd gerllaw am gyfnod oherwydd y mwg.

Bu criwiau o Lanelli, Cydweli, Gorseinon ac Abertawe yn cynorthwyo yn ystod yr ymdrech i ddiffodd y fflamau.