Chwilio am Russell Sherwood: Tynnu corff a char o afon

Russell Sherwood Image copyright Arall
Image caption Aeth Russell Sherwood ar goll ddydd Sul

Mae'r heddlu sydd wedi bod yn chwilio am ddyn o Gastell-nedd oedd ar goll wedi tynnu corff o Afon Ogwr ger Pen-y-bont.

Aeth Russell Sherwood, 69 oed o Gil-ffriw, Castell-nedd, ar goll ddydd Sul.

Bu timau achub yn chwilio'r ardal ger Merthyr Mawr ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i'w gar.

Mae teulu Mr Sherwood wedi cael gwybod am y datblygiadau, ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

"Rydyn ni wedi cwblhau'r chwilio am Mr Sherwood nawr, ar ôl i ni ddarganfod car a chorff y bore 'ma," meddai'r prif arolygydd Stuart Parfitt o Heddlu'r De.

"Does dim amgylchiadau amheus ac mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel damwain drasig. Fe fydd y corff nawr yn cael ei adnabod yn swyddogol, ac mae'r ymchwiliad wedi cael ei gyfeirio at y crwner.

"Rydym yn parhau i feddwl am deulu Mr Sherwood yn y cyfnod anodd yma, a hoffwn ddiolch iddynt am eu cydweithrediad a'u hamynedd wrth i ni chwilio mewn amodau anodd tu hwnt."