Pryder am brinder meddygon teulu o Gymru

myfyrwyr meddygol Image copyright Green Bay/S4C
Image caption Mae prifysgolion yr Alban yn llwyddo i ddenu llawer mwy o fyfyrwyr meddygol o'u gwlad eu hunain na Chymru

Mae prifysgolion yr Alban yn derbyn ddwywaith nifer y myfyrwyr meddygaeth o'u gwlad eu hunain o gymharu â phrifysgolion yng Nghymru.

Yn ôl ymchwil gan raglen materion cyfoes Manylu ar BBC Radio Cymru, mae ymhell dros hanner y myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau yn Glasgow, Dundee a Chaeredin yn hanu o'r Alban.

Yng Nghymru, chwarter myfyrwyr meddygaeth Prifysgol Caerdydd eleni sy'n Gymry, a gydag argyfwng meddygon teulu, mae nifer yn poeni fod 'na effaith ar niferoedd y meddygon sy'n dewis aros yng Nghymru i weithio.

Ysgol Feddygaeth Caerdydd yw'r unig un yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr israddedig, ac roedd 74 allan o 294 gafodd eu derbyn ar y cwrs eleni yn dod o Gymru.

Yn 2014 a 2015 roedd y niferoedd yn is, gyda rhyw un ymhob pump o'r myfyrwyr yn Gymry.

Image caption Mae Alaw Prys ac Iwan Williams wedi gorfod gadael Cymru i astudio meddygaeth

Un o'r rhai gafodd eu gwrthod gan Brifysgol Caerdydd yw Alaw Prys, o Fethel, ger Caernarfon, oedd yn Brif Ferch yn Ysgol Brynrefail Llanrug. Bellach mae hi wedi gorfod gadael Cymru i fynd i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl.

"O'n i'n siomedig 'mod i ddim wedi cael lle gan Brifysgol Caerdydd, gan mai dyna oedd fy newis cynta'," meddai Alaw.

"Dyna lle fyddwn i wedi hoffi mynd a fuaswn i wedi cael y cyfle i astudio rhywfaint o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. A hefyd, wrth fynd ar brofiadau gwaith, fuaswn i wedi medru trin cleifion sy'n siarad Cymraeg.

"Dwi'n meddwl bod o hefyd yn bwysig ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru bod 'na ddoctoriaid Cymraeg yma yng Nghymru oherwydd fod 'na brinder meddygon yma."

Image caption Yn ddiweddar, fe ddilynodd S4C fyfyrwyr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer cyfres ddogfen

Mae Iwan Williams, sy'n dod o bentre Llandre ger Aberystwyth, yn ei bedwaredd flwyddyn fel myfyriwr meddygaeth yn yr Alban.

Fe wnaeth gais i fynd i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ddwywaith yn olynol, ond er iddo gael pedair gradd 'A' yn ei arholiadau Lefel A, methodd gael lle.

Bellach mae'n astudio yng Nghaeredin, lle mae dros hanner ei gyd-fyfyrwyr meddygaeth yn Albanwyr. Mae Caeredin yn un o bump o ysgolion meddygol sy' wedi eu lleoli ar draws yr Alban.

"Mae lot mwy o gyfleoedd i bobl yn yr Alban i aros yn y wlad," meddai Iwan. "Hefyd mae incentive ariannol iddyn nhw aros, achos os y'n nhw'n sefyll yn yr Alban does dim ffioedd dysgu gyda nhw i dalu o gwbl.

"Mae'r rhan fwya' o'r myfyrwyr ar y cwrs gyda fi wedi gwneud cais i lefydd yn yr Alban yn benna', neu yn unig. Yn amlwg mae mwy o ddewis yn yr Alban na sy' 'na yng Nghymru gan fod pump ysgol feddygol yma."

Image caption Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud nad oes hawl iddyn nhw ffafrio myfyrwyr o Gymru dros unrhyw un arall

Eleni fe wnaeth 570 o fyfyrwyr o Gymru gais i astudio meddygaeth ar draws y Deyrnas Unedig, gyda thua hanner y rheiny yn cyflwyno ceisiadau i astudio yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gyfweld 1,600 o fyfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol, a chynnig lle i ychydig dan 300 o fyfyrwyr.

Yn ôl Sara Whittam, Rheolwr Datblygu Iaith Gymraeg yn Ysgol Feddygaeth Caerdydd, mae pob un ymgeisydd yn cael yr un chwarae teg.

"Dwi'n meddwl o ran y niferoedd sy' gynnon ni o Gymru, mae'r cyfartaledd yr un faint, fwy neu lai, â sy' 'na ar draws y Brifysgol fel cyfanrwydd," meddai.

"Ac yn sicr o ran y siaradwyr Cymraeg sy' ar y cwrs, mae gynnon ni ganran tebyg iawn i weddill y Brifysgol. Felly, dim esgus ydy hyn, ond does dim hawl gyda ni - yn unol â pholisi'r Brifysgol - i ffafrio'r Cymry dros unrhyw un arall."

Gallwch glywed mwy am y stori yma ar Manylu am 12:30 ddydd Iau 24 Tachwedd ar BBC Radio Cymru. Bydd ail-ddarllediad brynhawn Sul 27 Tachwedd am 16:00, ac mae modd gwrando ar y rhaglen ar BBC iPlayer hefyd.