Cwtogi dedfryd cyn gynghorydd am secstio

achos cynghorydd Image copyright Western Telegraph
Image caption Cafodd Stephen Evans ei ddedfrydu ym Mis Awst

Mae barnwr wedi cwtogi dedfryd cyn gynghorydd yn Sir Benfro, gafodd ei garcharu am anfon negeseuon testun anweddus i ferch 15 oed.

Cafodd Stephen Evans o Hwlffordd ei ddedfrydu i 15 mis dan glo ym Mis Awst, ar ôl cyfaddef i ddau gyhuddiad o gymell plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd r

Fe aeth y dyn 57 oed â'i achos i'r Llys Apêl yn Llundain ddydd Mercher.

Penderfynodd y barnwr gwtogi'r ddedfryd i 20 wythnos, cyfnod y mae Evans eisoes wedi ei gwblhau.

Cafodd Evans ei ethol yn gynghorydd tref yn Hwlffordd yn 2010. Roedd e hefyd yn weithiwr gwirfoddol ac yn ddyfarnwr pêl-droed.

Clywodd y llys ei fod wedi anfon dwy neges at y ferch cyn ei phen-blwydd yn 16 oed.