Pwy fydd enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2016?

Rhai o'r artistiaid sydd ar y rhestr fer
Image caption Rhai o'r artistiaid sydd ar y rhestr fer

Mae 12 ar y rhestr fer, ond nos Iau yng Nghaerdydd, fe fydd enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei gyhoeddi.

Cafodd y wobr ei chreu yn 2011 gan y cyflwynydd radio, Huw Stephens, a'r hyrwyddwr, John Rostron.

Mae enillwyr y wobr yn y gorffennol yn cynnwys Gwenno a Gruff Rhys, ac mae nifer o artistiaid sy'n canu yn y Gymraeg wedi'u henwi ar y rhestr fer eleni unwaith eto.

Y rhestr fer:

  • 9Bach - Anian
  • Alun Gaffey - Alun Gaffey
  • Cate Le Bon - Crab Day
  • Climbing Trees - Borders
  • Datblygu - Porwr Trallod
  • Meilyr Jones - 2013
  • Plu - Tir a Golau
  • Right Hand Left Hand - Right Hand Left Hand
  • Simon Love - It Seemed Like a Good Idea at the Time
  • Skindred - Volume
  • Sŵnami - Sŵnami
  • The Anchoress - Confessions of a Romance Novelist

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan 12 o arbenigwyr o'r byd cerddoriaeth, gan gynnwys y cerddor Amy Wadge, Dwynwen Morgan o Radio Cymru, y blogiwr Lowri Cooke a'r hyrwyddwr Gwyn Eiddior.

Albymau newydd gwych

Dywedodd Mr Rostron: "Ceir yma 12 o recordiau gwahanol iawn, wedi'u creu gan artistiaid sydd wedi hen ennill eu plwyf a sêr newydd sy'n dod i'r amlwg, gyda chaneuon sy'n cwmpasu'r amrywiaeth lawn o genres, synau a dylanwadau.

"Mae cynifer o albymau newydd gwych yn cael eu rhyddhau o Gymru ar hyn o bryd. Mae'n gyfnod arbennig o dda i fod yn gwrando ar gerddoriaeth newydd a chanfod ffefrynnau newydd."

Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi nos Iau yn y Depot yng Nghaerdydd.