Dim Sam Warburton i Gymru yn erbyn De Affrica

Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption Ni fydd Sam Warburton yn chwarae oherwydd anaf

Ni fydd Sam Warburton yn chwarae i Gymru wrth iddyn nhw herio De Affrica yn y gêm olaf yng nghyfres yr hydref ddydd Sadwrn.

Cafodd y blaenasgellwr anaf wrth hyfforddi sy'n golygu y bydd Dan Lydiate, Justin Tipuric a Ross Moriarty yn dechrau yn y rheng ôl.

Gethin Jenkins fydd yn gapten ar y tîm, gan ddechrau yn y rheng flaen gyda Ken Owens a Tomas Francis, o flaen Alun Wyn Jones a Luke Charteris yn yr ail reng.

Gareth Davies a Dan Biggar fydd yr haneri, tra bo'r canolwr Scott Williams yn cymryd lle Jamie Roberts fel partner i Jonathan Davies.

Image copyright Reuters
Image caption Bydd Scott Williams yn dechrau fel canolwr yn lle Jamie Roberts

Bydd Liam Williams yn dechrau ar yr asgell chwith, gyda George North ar yr asgell dde, a Leigh Halfpenny yn gefnwr.

Fe wnaeth Cymru ddechrau cyfres yr hydref gyda cholled 8-32 yn erbyn Awstralia, cyn iddyn nhw guro Ariannin o 24-20 a Japan o 33-30.

Cymru: Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams, Dan Biggar, Gareth Davies, Gethin Jenkins (c), Ken Owens, Tomas Francis, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Samson Lee, Cory Hill, Taulupe Faletau, Lloyd Williams, Sam Davies, Jamie Roberts.

De Affrica: Johan Goosen, Ruan Combrinck, Francois Venter, Rohan Janse van Rensburg, Jamba Ulengo, Elton Jantjies, Faf de Klerk, Tendai Mtawariri, Adriaan Strauss (capt), Lourens Adriaanse, Pieter-Steph du Toit, Lood de Jager, Nizaam Carr, Uzair Cassiem, Warren Whiteley.

Eilyddion: Malcolm Marx, teven Kitshoff, Trevor Nyakane, Franco Mostert, ean-Luc du Preez, Piet van Zyl, Pat Lambie, Lionel Mapoe.

'Siom' Japan

Dywedodd yr hyfforddwr Rob Howley bod y canlyniad yn erbyn Ariannin wedi ei blesio, ac felly ei fod wedi dewis tîm tebyg iawn.

"Cafodd Sam [Warburton] ychydig o anaf ddydd Mawrth a dydy o ddim cweit yn barod felly mae Dan [Lydiate] yn dod i mewn," meddai.

"Chwaraeodd Dan yn dda iawn yn erbyn Japan felly rydyn ni'n falch ei fod yn cael cyfle eto.

"Mae'n braf bod Taulupe [Faletau] yn ôl yn y garfan, bydd yn gallu cael effaith oddi ar y fainc."

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Faletau yn ôl ar y fainc i Gymru ddydd Sadwrn

Ychwanegodd bod y tîm yn edrych am berfformiad gwell wedi "siom" gêm Japan.

"Mae ychydig o siom yn nhermau'r perfformiad yn erbyn Japan, ac rydyn ni eisiau gwneud yn iawn am hynny.

"Nid yn unig ydyn ni'n edrych i ennill y penwythnos yma ond rydyn ni eisiau'r perfformiad hefyd."

Straeon perthnasol