Y Seintiau Newydd yn torri record am nifer buddugoliaethau

TNS Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae'r Seintiau Newydd wedi rheoli pêl-droed Cymru yn y blynyddoedd diwethaf

Mae'r Seintiau Newydd wedi torri record yn Uwch Gynghrair Cymru am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau yn olynol ar ddechrau'r tymor.

Fe ddaeth eu 16eg buddugoliaeth yn erbyn Airbus UK Brychdyn nos Wener a hynny o 4-0, diolch i ddwy gôl gan Jon Routledge ac un yr un gan Aeron Edwards a Scott Quigley.

Roedd hynny'n ddigon i basio record flaenorol Bangor o 15 buddugoliaeth, gafodd ei gosod yn ystod tymor 2010-11.

Mae'r Seintiau Newydd bellach bymtheg pwynt ar y blaen yn Uwch Gynghrair Cymru, ac yn ffefrynnau clir i ennill y teitl am yr 11eg tro yn hanes y clwb.

Mae'r tîm o Groesoswallt wedi ennill y trebl o gystadlaethau Cymru - yr Uwchgynghrair, Cwpan Cymru a Chwpan y Gynghrair - am y ddau dymor diwethaf.

Image caption Dywedodd Aeron Edwards cyn y gêm ei fod yn hyderus y gallai'r Seintiau osod record newydd