Llywodraeth Cymru i godi treth ar wastraff

Landfill site

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn codi treth ar wastraff sy'n cael ei waredu heb ganiatâd o dan bwerau deddf newydd sy'n dod i rym yn 2018.

Ond dyw hi ddim yn eglur sut y bydd yr awdurdodau yn plismona'r ddeddf newydd - y Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi - fydd gerbron y Cynulliad ddydd Llun.

Bydd y ddeddf hefyd yn cynnwys mesurau yn erbyn gwaredu sbwriel mewn safleoedd anghyfreithlon.

Hon yw'r ail dreth i gael ei datganoli i Gymru o San Steffan.

Y gred yw bod Llywodraeth Cymru yn gweld y ddeddf fel modd o atal pobl rhag gwaredu sbwriel - yn hytrach na modd o godi arian.

Mae disgwyl i'r arian sy'n cael ei godi drwy drethi tirlenwi yng Nghymru godi i £34m eleni, ond i ostwng i £27m erbyn 2018-19.

Mae BBC Cymru yn deall fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn dal i geisio datrys y broblem o sut i blismona pobl sy'n gwaredu sbwriel heb ganiatâd.

Un posibilrwydd yw bod hyn yn rhan o ddyletswyddau newydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fe fydd y dreth newydd, Treth Gwarediadau Tirlenwi, yn disodli'r Dreth Tirlenwi yn Ebrill 2018, ar ôl i'r pwerau gael eu datganoli o San Steffan.

Fe allai lefel y dreth fod yn debyg i un Lloegr, gan fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i osgoi sefyllfa lle bydd pobl yn teithio o Loegr i Gymru er mwy gwaredu eu sbwriel.

Safleoedd tirlenwi: Y ffeithiau

  • Gweithredwyr safleoedd tirlenwi fydd yn gyfrifol am dalu'r dreth, ac fe fyddan nhw'n trosglwyddo'r costau hyn i weithredwyr gwastraff.
  • Mae dwy gyfradd o dreth tirlenwi, yn dibynnu ar y math o wastraff: yr isafswm fydd £2.65 y tunnell; a'r pris uchaf fydd £84.40 y tunnell.
  • Bydd y Ddeddf hefyd yn ychwanegu trydydd cyfradd ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi.
  • Ar hyn o bryd, mae 25 o safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn nwylo 20 o weithredwyr safleoedd tirlenwi.

Mae bron i 2,000,000 tunnell o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi yng Nghymru bob blwyddyn, ond mae disgwyl i'r cyfanswm, a'r cyfanswm trethi, ostwng yn y dyfodol wrth i lefelau ailgylchu gynyddu.

Dros gyfnod o ddegawd mae cyfanswm y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlewni wedi gostwng 44%, graddfa sy'n cymharu'n ffafriol â gweddill y DU.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda swyddogion y Trysorlys er mwyn sicrhau fod incwm is o drethi tirlewni yn cael ei hystyried wrth i'r Trysorlys amcangyfrif lefel yr arian bloc mae Cymru yn ei dderbyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Dyma'r trydydd o dri Bil i sefydlu trefniadau trethi yng Nghymru, ac mae'n gam pwysig tuag at ddatganoli trethi i ni.

"Am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd, ry'n ni'n datblygu ac yn rhoi system dreth ar waith sy'n diwallu anghenion penodol ein gwlad a'n pobl.

"Drwy gyflwyno'r dreth gwarediadau tirlenwi yn lle'r dreth dirlenwi o fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar yr arian a godir gan y dreth hon.

"Mae Cymru ar flaen y gad o ran ei pholisi gwastraff ac mae treth gwarediadau tirlenwi yn elfen bwysig ar gyfer cyrraedd y nod o Gymru ddiwastraff."

Straeon perthnasol