Ian Dawes yn olynu Andy Legg fel rheolwr Dinas Bangor

bangor

Mae Ian Dawes wedi cael ei benodi'n rheolwr Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.

Daw ei benodiad wedi i Andy Legg adael y clwb, ar ôl pedwar mis yn unig wrth y llyw.

Dawes sydd wedi bod yn gyfrifol am hyfforddi timau ieuenctid Yr Amwythig dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, a chyn hynny roedd yn rheolwr ar glwb Floriana yn Uwchgynghrair Malta.

Fe orffennodd Bangor y tymor diwethaf yn y nawfed safle yn Uwchgynghrair Cymru.