Scarlets 38-29 Leinster

Scarlets' Rhys Patchell Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Llwyddodd Rhys Patchell i drosi pob un o bum cais y Scarlets

Mae'r Scarlets wedi codi i'r pedwerydd safle yn y Pro12 ar ôl buddugoliaeth gyfforddus dros Leinster ar Barc y Scarlets.

Cafodd y tîm cartref y dechrau perffaith i'r gêm, gyda cheisiau cynnar gan Johnny McNicholl a Werner Kruger yn eu rhoi nhw 14-0 ar y blaen.

Llwyddodd Isa Nacewa gyda throsiad er mwyn sgorio pwyntiau cyntaf Leinster, ond yna fe wnaeth cais gan Steff Evans ymestyn mantais y Scarlets.

Caewyd y bwlch funudau cyn yr egwyl wrth i'r bachwr Richardt Strauss groesi am gais cyntaf yr ymwelwyr, ond fe fethodd Nacewa ag ychwanegu dau bwynt.

Os oedd gan Leinster dal obeithion o ddod yn ôl i mewn i'r gêm, fe ddiflannodd hynny ar ddechrau'r ail hanner wrth i Barry Daly gael cerdyn coch am dacl beryglus yn yr awyr ar Aled Thomas.

Fe fanteisiodd y Scarlets ar y dyn ychwanegol oedd ganddyn nhw, gyda cheisiau Will Boyde a Ryan Elias yn sicrhau pwynt bonws i'r tîm cartref.

Ond fe frwydrodd Leinster yn ôl, gydag Adam Byrne ac yna Tom Daly yn croesi i'w gwneud hi'n 35-22 a rhoi llygedyn o obaith i'r Gwyddelod.

Roedd y Scarlets wedi llwyddo i adeiladu digon o fantais fodd bynnag, ac fe ychwanegodd Daniel Jones gic gosb i wneud y bwlch yn dair sgôr unwaith eto cyn i Andrew Porter sgorio cais hwyr i Leinster.