Ymgyrch i symud llewod Pont Britannia 'i safle gweledol'

Y llewod ar Bont Britannia
Image caption Y llewod ar Bont Britannia

Mae galw unwaith eto am 'Godi'r Llewod' ar Bont Britannia i groesawu pobl i Ynys Môn.

Yn ôl ymgyrchwyr lleol, sydd newydd ddechrau deiseb ar y we, mae cyfle yn cael ei golli gan bod y creaduriaid cerrig wedi'u cuddio ar hyn o bryd, ers adeiladu ffordd yr A55 ger Llanfairpwll.

Dim ond wrth deithio ar drên y mae modd eu gweld bellach, a hynny am eiliadau yn unig wrth groesi rhwng Gwynedd a Môn.

Wrth siarad gyda Newyddion9 dywedodd Tim Snow, a ddechreuodd y ddeiseb 'Codi'r Llewod', fe gafodd y llewod "eu hadeiladu i gael eu gweld".

"Dwi'n siwr bod nhw'n atyniad posib i dwristiaid," meddai

"Mae'n nhw'n rhan o'n treftadaeth leol ni. Fe fydda hi'n wych pe bai ymwelwyr a phobl leol yn cael eu croesawu i'r ynys gan y llewod bendigedig yma."

Mae'r llewod wedi bod yno ers 1850, pan agorodd y bont am y tro cyntaf. Ar gost o £1,024 yr un, cafodd y cerfluniau eu naddu o garreg galch o Benmon.

Maen nhw'n 12 troedfedd o uchder ac yn pwyso 80 tunnell.


Cafodd pennill enwog ei hysgrifennu gan y Bardd Cocos yn adrodd hanes llewod y bont:

"Pedwar llew tew

"Heb ddim blew,

"Dau 'rochr yma

"A dau 'r ochr drew."


Gobaith yr ymgyrchwyr yw dwyn perswâd ar Network Rail i symud y llewod. Mae'r cwmni'n dweud eu bod yn barod i drafod ond nid oes modd cynnig cymorth ariannol.

Mae Network Rail hefyd yn pwysleisio fod Pont Britannia yn rhestredig (gradd II), ac felly y byddai angen caniatâd cynllunio i wneud unrhyw newidiadau.

Nid pawb, er hynny, sy'n cytuno y byddai'n syniad da i symud y llewod. Mae gan Bob Daimond, sy'n gyn-gyfarwyddwr priffyrdd Gwynedd ac sydd yn drysorydd arddangosfa Treftadaeth y Fenai, nifer o bryderon am ddiogelwch.

"Gan bod y gwaith o grefftio'r llewod wedi'i orffen yn y fan a'r lle fe fyddai symud y cerfluniau yn amharu ar waith celf," meddai.

"O godi'r llewod, a fyddan nhw'n ormod o distraction i yrrwyr ar y bont? Mae hi'n reit beryglus yno'n barod."

Mae hi'n ddyddiau cynnar yn ôl yr ymgyrchwyr, ond does ganddyn nhw ddim amcan ar hyn o bryd faint yn union fydda hi'n gostio i symud y llewod.

Bydd rhagor o'r hanes ac ymateb o Lanfairpwll ar Newyddion9 heno.