Glasgow 5-22 Gweilch

Tom Habberfield Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Tom Habberfield oedd sgoriwr cais gyntaf y Gweilch

Mae'r Gweilch wedi codi i frig y Pro12 am y tro gyda buddugoliaeth pwynt bonws dros Glasgow.

Gyda'r ddau dîm yn methu cyfleoedd am bwyntiau mewn hanner cyntaf blêr, bu'n rhaid aros tan funudau olaf yr hanner cyntaf i gais Tom Habberfield roi'r Gweilch ar y blaen.

Daeth ail i'r Gweilch yn fuan yn yr ail hanner, gyda Tom O'Flaherty yn casglu cic Josh Matavesi cyn croesi'r linell gais, a hynny funudau wedi i glo Glasgow, Brian Alainu'uese gael cerdyn coch am daclo heb ddefnyddio'r breichiau.

Roedd Matavesi wedi methu gyda'i ddau ymgais i drosi'r ceisiau, gan olygu mai dim ond deg pwynt oedd mantais yr ymwelwyr o hyd.

Ond fe wnaeth cais Dan Baker gydag 20 munud yn weddill wneud pethau ychydig yn fwy cyfforddus i'r Gweilch, er i Matevesi fethu unwaith eto gyda'i gic.

Sicrhawyd y pwynt bowns gan Ashley Beck gyda 12 munud i fynd, a'r tro hwn fe lwyddodd Matavesi gyda'i drosiad.

Cafodd Glasgow gais gysur hwyr diolch i Junior Bulumakau, ond roedd y Gweilch eisoes wedi gwneud digon i sicrhau y bydden nhw'n dychwelyd o'r Alban gyda phum pwynt.