Connacht 18-7 Gleision

John Cooney Image copyright Arall
Image caption Fe sgoriodd John Cooney 13 o 18 pwynt Connacht

Mae'r Gleision yn aros yn seithfed yn nhabl y Pro12 wedi iddyn nhw golli oddi cartref yn Connacht.

Y tîm cartref sgoriodd bwyntiau cyntaf y noson, gyda'r mewnwr John Cooney yn croesi am gais ac yna'n ychwanegu'r trosiad ei hun.

Ond roedd y sgôr yn hafal bron yn syth wrth i Tom James groesi'r linell gais i'r Gleision, gyda Steven Shingler yn llwyddo gyda'i gic.

Connacht aeth i mewn i'r egwyl ar y blaen fodd bynnag, wrth i Cooney drosi cic gosb i'w gwneud hi'n 10-7.

Cafodd y fantais ei hymestyn ymhellach ar ddechrau'r ail hanner, Cooney unwaith eto yn llwyddo gyda chic gosb cyn i Bundee Aki groesi am ail gais i Connacht.

Roedd hi'n edrych fel petai'r Gleision wedi cau'r bwlch i un sgôr pan lwyddodd Matthew Morgan i groesi'r linell gais, ond ar ôl i'r dyfarnwr teledu gael golwg arni penderfynwyd fod y bêl wedi'i bwrw 'mlaen.

Fe wnaeth y Gleision barhau i bwyso ar linell gais Connacht, ond methu wnaethon nhw yn eu hymgais i gael rhywbeth allan o'r gêm.