Gwahardd beiciau? Plât T ar gyfer ceir twristiaid?

Deiseb yn cael ei chyflwyno Image copyright Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyn hir mae'n bosib y bydd deisebau poblogaidd yn arwain at drafodaethau yn y Senedd - ond faint o werth sydd i ddeisebau ac a ydynt yn wastraff amser?

Wel beth yw'ch barn chi am gael plât T ar gyfer ceir twristiaid er mwyn iddynt gael cyhoeddi i'r byd a'r betws nad ydynt yn sicr o'r ffordd - neu beth am wahardd beiciau oddi ar dir cyhoeddus yn gyfan gwbl?

Dyna ddwy o'r cannoedd o ddeisebau a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad, ond a wrthodwyd ar gyfer unrhyw ystyriaeth.

Cyn hir mae'n bosib y bydd deisebau poblogaidd ag arnynt gannoedd o lofnodion yn cael eu trafod.

Yn ôl yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yng Nghaerdydd mae i ddeiseb ei lle ond un arf democrataidd yw deiseb - mae gan ddeisebau eu gwendidau.

Mae deisebau digon rhyfedd wedi cyrraedd y Cynulliad ers ei sefydlu gan gynnwys un a oedd yn galw am "wahardd beiciau mewn mannau cyhoeddus".

Image copyright Thinkstock

Yn ôl y rhai a arwyddodd y ddeiseb "rhaid oedd i bob gweithred o seiclo ddigwydd ar dir preifat - a gwell fyth petai hynny yn digwydd ar feic llonydd!"

Ni chafodd y mater sylw gan y Cynulliad na chwaith y ddeiseb a alwodd am i Gymru fod yn annibynnol yng nghystadleuaeth yr Eurovision.

Image caption Joe Woodford o Ruthun a Jake Shakeshaft (o Loegr) - petai'r ddeiseb wedi llwyddo mi fyddai Cymru a Lloegr yn cystadlu ar wahân

"Mae nifer o'r deisebau a gyflwynir i'r Cynulliad yn dangos," medd yr Athro McAllister ymhellach, "nad yw llawer o'r cyhoedd yn ymwybodol o bwerau Llywodraeth Cymru.

"Nid yw hynny'n syndod gan fod gennym yng Nghymru drefn ddatganoli gweddol gymhleth."

Un ddeiseb a gyflwynwyd yn 2015 gan yrrwyr blin oedd un yn gofyn am i dwristiaid gael plât T ar eu ceir. Ni chafodd y ddeiseb honno unrhyw sylw gan mai San Steffan sydd yn deddfu ar faterion o'r fath.

Image copyright Thinkstock/BBC
Image caption Un deiseb aflwyddiannus a oedd un yn gofyn i dwristiaid arddangos platiau T

Y dull o ddelio â deisebau yng Nghymru

Ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor Deisebau yn ystyried deisebau ag arnynt o leiaf ddeg enw. Os yw'r ddeiseb yn galw am weithredu y tu hwnt i allu Llywodraeth Cymru ni fydd yn cael sylw.

Ym mis Chwefror fe argymhellodd un adroddiad y dylai deiseb ag arni 10,000 o enwau esgor ar drafodaeth yn y Senedd ond mae'r BBC yn deall fod y pwyllgor deisebau wedi argymell 5,000 o enwau.

Pwyllgor busnes y Cynulliad fydd â'r gair olaf.

Ym mis Medi mi gafodd deiseb yn galw am ailenwi Maes Awyr Caerdydd ar ôl Diana, Tywysoges Cymru ei hystyried gan y pwyllgor deisebau. Ond ni roddwyd sylw i ddeiseb a oedd yn galw am enwi'r maes awyr yn faes awyr Carwyn Jones a hynny 'er mwyn ei anrhydeddu am achub y maes awyr o ddwylo cyfalafwyr cas a fyddai wedi cau'r maes awyr!'

Er hynny mi all deisebau ddigon pryfoclyd arwain at weithredu gwleidyddol.

Yn 2012, yn dilyn marwolaeth bachgen 15 oed o ardal Caerffili, fe ymgyrchwyd dros reol newydd a'i gwnai hi'n orfodol i gael diffibriliwr ymhob adeilad cyhoeddus.

Fe arweiniodd y ddeiseb ag arni 78 llofnod at drafodaeth yn y pwyllgor deisebau, comisiynwyd adroddiad a chafwyd ateb swyddogol gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor deisebau, Mike Hedges, mae deisebau yn ffordd i'r cyhoedd ddod â mater gerbron y Cynulliad ac y mae'n gysylltiad pwysig rhwng y cyhoedd â Llywodraeth Cymru.

"Mae pob deiseb yn cael ei thrafod o ddifrif ac nid wyf yn cofio'r un ddeiseb nad yw hi wedi bod yn werth i'w thrafod."

Fe fyddai'r trafodaethau hynny wedi cynnwys deiseb a alwodd am greu y bunt Gymreig. Ond hyd yma nid yw y bunt Gymreig wedi gweld golau dydd gan nad yw'r hawl i sefydlu "y bunt Gymreig" wedi'i ddatganoli.