Y Bencampwriaeth: Aston Villa 3-1 Caerdydd

Jonathan Kodjia sydd wedi sgorio 13 gôl i Aston Villa ers gadael Bristol City yn Awst Image copyright Ryan Browne
Image caption Jonathan Kodjia sydd wedi sgorio 13 gôl i Aston Villa ers gadael Bristol City yn Awst

Fe sgoriodd y ddau dîm yn yr hanner awr gyntaf - Albert Adomah i Aston Villa ac yna Rickie Lambert yn dod â'r sgôr yn wastad.

Ond erbyn hanner amser roedd Villa yn ôl ar y blaen pan beniodd Jonathan Kodjia i'r rhwyd. Bu Villa wedyn ar y blaen drwy gydol yr ail hanner. Ond roedd gobaith Caerdydd yn diflannu yn enwedig pan gafodd Lee Peltier gerdyn coch a gadael y tîm gyda deg dyn ar y cae.

Yna dyma Rudy Gestede, cyn-chwaraewr Caerdydd yn rhoi yr hoelen yn yr arch i Gaerdydd yn y funud olaf drwy sgorio o'r smotyn wedi i Sean Morrison droseddu yn erbyn Jack Grealish yn y blwch.