Uwch Gynghrair Lloegr: Abertawe 5-4 Crystal Palace

Leroy Fer yn sgorio ei ail gôl i Abertawe Image copyright Getty Images
Image caption Leroy Fer yn sgorio ei ail gôl i Abertawe

Llwyddodd Abertawe i gipio buddugoliaeth ryfeddol hwyr yn Stadiwm Liberty mewn gornest rhwng dau dîm sydd yn ymladd yng ngwaelodion yn yr Uwch Gynghrair.

Roedd hi'n hanner cyntaf cymharol anodd i Abertawe gyda Wilfried Zaha yn sgorio i Crystal Palace wedi 18 munud. Llwyddodd Zaha i wibio heibio i Neil Taylor a Federico Fernandez a gwasgu'r bêl yn isel heibio i Lukasz Fabianski.

Ond yn araf bach fe ddaeth Abertawe yn ôl i'r gêm ac wedi 36 munud fe sgoriodd Gylfi Sigurdsson o'r smotyn.

Er hynny, nid oedd Crystal Palace wedi eu trechu a dylent fod wedi mynd ar y blaen bedwar munud yn ddiweddarach pan drawodd Zaha y bar wedi peniad grymus.

Roedd Abertawe wedi eu tanio yn yr ail hanner, gyda Modou Barrow yn ennill lle iddo'i hun ar yr asgell ac yn gyrru'r bêl i'r blwch cosbi yn gyson.

Gyda dwy gôl mewn dau funud fe drawsnewidiodd Leroy Fer y gêm. Gôl digon flêr oedd y gyntaf ond roedd yr ail yn ergyd rymus wrth y postyn pellaf.

Ond yn ôl ddaeth Palace, gyda James Tomkins yn sgorio i'w gwneud yn 3-2 cyn i groesiad Zaha daro pen capten Abertawe, Jack Cork, a glanio yng ngefn y rhwyd tu hwnt i Fabianski.

Toc wedi hynny roedd hi'n edrych fel petai Christian Benteke wedi claddu gobeithion Abertawe, gyda pheniad grymus a roddodd yr ymwelwyr ar y blaen yn y Liberty.

Ond nid oedd y stori wedi gorffen eto a daeth Abertawe yn ôl, gyda Fernando Llorente yn sgorio'r bedwaredd gôl, cyn rhwydo'r bumed eiliadau cyn y chwiban olaf.

Mae Abertawe wedi codi i'r 19fed safle yn y tabl.