Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-1 Forest Green

Shaun Harrad (ar y dde) yn rhoi Wrecsam ar y blaen Image copyright Rex Features
Image caption Shaun Harrad (ar y dde) yn rhoi Wrecsam ar y blaen

Sicrhaodd Wrecsam fuddugoliaeth gyntaf i Dean Keates ers ei benodi yn rheolwr tîm y Dreigiau. Ond roedd hi'n fuddugoliaeth fawr gan mai curo Forest Green Rovers (y tîm ar frig y gynghrair) a wnaeth y tîm o'r gogledd ddwyrain.

Goliau gan Shaun Harrad a Gerry McDonagh yn yr hanner cyntaf a roddodd sail i'r fuddugoliaeth.

Roedd hi'n ymddangos fod Forest Green yn bygwth pan sgoriodd Darren Carter ar ôl 68 munud. Ond gôl gysur oedd hon ac fe sgoriodd Gerry McDonagh ail gôl yn yr amser a gafodd ei ychwanegu ar ddiwedd y gêm.